Am wythnos gythryblus i bêl droed Cymru. Ni fydd Ryan Giggs wrth y llyw ar gyfer y gemau yn erbyn yr Unol Daleithiau, Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir yr wythnos hon ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o achosi gwir niwed corfforol nos Sul ddiwethaf.

Mae’r cyn asgellwr yn gwadu’r cyhuddiad ac wedi ei ryddhau ar fechnïaeth, ond gwnaeth Cymdeithas Bêl Droed Cymru, ar y cyd gyda Giggs, y penderfyniad synhwyrol y dylai’r rheolwr gamu o’r neilltu ar gyfer y gemau hyn.

Ei gynorthwyydd, Robert Page a fydd yn cymryd yr awenau yn ei absenoldeb ac er i hynny achosi oedi wrth gyhoeddi’r garfan yr wythnos hon, mae’n debyg mai Giggs a ddewisodd y chwaraewyr.

Un enw newydd yn Josh Sheehan ac un enw cyfarwydd yn dychwelyd yn Owain Fôn Williams a oedd prif newyddion y garfan honno ond sut wnaethon nhw a’r gweddill i’w clybiau ar y penwythnos olaf cyn y cyfnod rhyngwladol?

 

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Chwilio am ryw gydbwysedd sensitif rhwng munudau i’r rhai sydd eu hangen ac osgoi anafiadau i’r gweddill y mae cefnogwyr rhyngwladol wrth wylio’i chwaraewyr ar y penwythnos olaf hwn bob tro.

Un o’r unig rai sydd wedi bod yn chwarae’n rheolaidd dros yr wythnosau diwethaf yn Uwch Gynghrair Lloegr yw Ethan Ampadu i Sheffield United. Efallai nad peth drwg felly oedd mai Chelsea a oedd eu gwrthwynebwyr hwy’r penwythnos hwn a bod y Cymro ddim yn gymwys i chwarae gan ei fod ar fenthyg o Stamford Bridge.

Ychydig o funudau y mae Daniel James a Tyler Roberts wedi eu cael yn ddiweddar a wnaeth hynny ddim newid llawer ddydd Sadwrn. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd James i Man U yn erbyn Everton a chafodd Roberts ugain munud oddi ar y fainc wrth i Leeds golli’n drwm yn Crystal Palace.

Mae dechrau da Spurs i’r tymor yn parhau wedi iddynt drechu West Brom ddydd Sul. Ar y fainc yr oedd yr amddiffynwyr, Ben Davies a Joe Rodon ond dechreuodd Gareth Bale gan chwarae 78 munud cyn cael ei eilyddio. Roedd golygfa bryderus iawn i gefnogwyr Cymru wedi hynny – pecyn o rew ar bigwrn y seren. Gwyliwch y gofod.

Gareth Bale

Bydd Danny Ward yn brysur i Gymru dros yr wythnos nesaf ond cynhesu’r fainc yr oedd y golwr i Gaerlŷr unwaith eto ddydd Sul ac nid oedd Neco Williams yng ngharfan Lerpwl.

 

 

Y Bencampwriaeth

Colli o gôl i ddim a oedd hanes Caerdydd ac Abertawe’r penwythnos hwn, yr Adar Gleision gartref yn erbyn Bristol City nos Wener ac Abertawe yn Norwich ddydd Sadwrn.

Dechreuodd Harry Wilson i Gaerdydd ar ôl rhwydo yn erbyn Barnsley ganol wythnos ond ni chafodd yntau na Kieffer Moore yr un lwc yn erbyn y gelyn o Fryste.

Cafodd Ben Cabango ei enwi yng ngharfan wreiddiol Cymru er iddo ddioddef anaf wrth gynhesu cyn wynebu Brentford nos Fawrth. Roedd yn absennol o garfan yr Elyrch yn erbyn Norwich hefyd a chadarnhaodd Steve Cooper ar ôl y gêm na fydd yr amddiffynnwr canol yn ymuno â’r garfan ryngwladol o’r herwydd. Connor Roberts felly a oedd yr unig Gymro i chwarae yn y golled yn Carrow Road.

Daeth canlyniad gorau’r penwythnos i gefnogwyr Cymru yn St Andrew’s wrth i Bournemouth drechu Birmingham o dair gôl i un. Chwaraeodd Chris Mepham a David Brooks y gêm gyfan i’r Cherries gyda Brooks yn sgorio dwy gôl holl bwysig o boptu i’r egwyl. Goliau cyntaf y tymor yn dilyn anaf a newyddion da iawn i Gymru.

David Brooks
David Brooks

Un arall, fel Brooks, a fydd yn dychwelyd i garfan Cymru yn dilyn anaf a fydd Tom Lawrence. Mae’r ymosodwr wedi bod yn dechrau’n rheolaidd i Derby dros yr wythnosau diwethaf er y dylid nodi eu bod yn cael tymor trychinebus ar waelod y Bencampwriaeth. Chwaraeodd yn erbyn Barnsley ddydd Sadwrn wrth i’w dîm golli eto ac mae’n siŵr y bydd ganddo reolwr newydd pan fydd yn dychwelyd i Pride Park ar ôl y cyfnod gyda’r tîm rhyngwladol.

Sôn am golli sywddi, os mai dyma ddechrau’r diwedd i Giggs, un o’r rhai a fydd o dan ystyriaeth i gymryd ei le o bosib a fydd y Cymro Cymraeg o’r Rhondda, Nathan Jones. Efallai mai ceisio plesio’r Gymdeithas Bêl Droed yr oedd felly wrth orffwyso’r tri Chymro yn ei garfan wrth i Luton deithio i Huddersfield ddydd Sadwrn!

Nid oedd Tom Lockyer na Joe Morrell yn y garfan ac eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Rhys Norrington-Davies, sydd wedi bod yn dioddef gyda mân anaf yn ddiweddar.

O ystyried yr anaf hwnnw i Norrington-Davies, un a all deimlo braidd yn siomedig nad yw yng ngharfan ddiweddaraf Cymru yw cefnwr chwith Stoke, Morgan Fox. Mae Fox yn chwarae’n rheolaidd i’r Potters ac roedd yn rhan o’r amddiffyn ddydd Sadwrn wrth i’w dîm deithio i Reading a rhoi cweir i’r tîm ar frig y tabl.

Prin iawn a oedd munudau i Gymry’r Bencampwriaeth fel arall. Chwaraeodd Tom Bradshaw y deg munud olaf o gêm gyfartal ddi sgôr Millwall yn erbyn Sheffield Wednesday ac roedd Joe Jacobson ac Alex Samuel yn rhan o dîm Wycombe a gollodd yn Nottingham Forest.

 

 

Y Cwpan FA

Nid oedd gemau yn yr Adran Gyntaf na’r Ail Adran y penwythnos hwn gan ei bod hi’n rownd gyntaf y Cwpan FA, gyda chlybiau saith aelod o garfan ddiweddaraf Cymru yn ymuno â’r gystadleuaeth.

Sgoriodd Brennan Johnson wrth i Lincoln roi cweir i Forest Green o chwe gôl i ddwy ac fe greodd Matthew Smith un o bum gôl Doncaster mewn buddugoliaeth swmpus yn erbyn FC United of Manchester.

Brennan Johnson

Mae Casnewydd yn yr ail rownd ar ôl trechu Leyton Orient oddi cartref. Chwaraeodd Josh Sheehan 90 munud i’r Alltudion ond fel yn y gynghrair, nid yw Tom King yn gallu cael ei le rhwng y pyst yn nhîm cwpan Mike Flynn.

Chwaraewyr Charlton yw’r tri arall ac er i Chris Gunter gael ei orffwyso yn erbyn Plymouth, fe chwaraeodd Dylan Levitt a Jonny Williams yng nghanol cae wrth iddynt golli o gôl i ddim.

Gwnaeth ambell Gymro arall argraff yn y Cwpan dros y penwythnos. Luke Jephcott a sgoriodd unig gôl y gêm yn y fuddugoliaeth uchod i Plymouth yn Charlton ac Ash Baker a gafodd gôl gyntaf Casnewydd yn Leyton Orient.

Roedd gôl, o fath, i un o gyn chwaraewyr Casnewydd hefyd wrth i MK Dons drechu Eastleigh. Wedi dwy awr ddi sgôr, y Dons aeth â hi ar giciau o’r smotyn, gyda Regan Poole yn rhwydo’r gyntaf.

Sgoriodd Tom James i Wigan am yr ail wythnos yn olynol ond ni wnaeth hynny atal ei dîm rhag cael eu curo yn annisgwyl gan Chorley, sydd yn chwarae dair haen yn is na hwy.

 

 

Yr Alban a thu hwnt

Pwy bynnag a ddewisodd y garfan hon, boed yn Giggs neu Page neu gyfuniad o’r ddau, mae un peth yn amlwg, nid ydynt yn gwylio Uwch Gynghrair yr Alban!

Mae’n braf gweld Owain Fôn Williams yn ôl am y tro cyntaf ers Ewro 2016 ac fe baratôdd gyda llechen lân i Dunfermline mewn gêm gyfartal yn erbyn Ayr brynhawn Sadwrn. Ond er parodrwydd Cymru i ddewis gôl-geidwad o Bencampwriaeth yr Alban, parhau i anwybyddu chwaraewyr sydd yn chwarae’n rheolaidd i dimau tua brig yr Uwch Gynghrair a wnânt.

Owain Fôn Williams

Roedd hi’n drydydd yn erbyn pedwerydd wrth i Hibs deithio i Aberdeen nos Wener, gyda’r tîm cartref yn mynd â hi o ddwy gôl i ddim yn Pittodrie. Mae Marley Watkins allan am ddeg wythnos i Aberdeen ar ôl dioddef anaf yn erbyn Celtic yr wythnos diwethaf ond chwaraeodd Ash Taylor a Ryan Hedges y 90 munud yn erbyn Hibs ac felly hefyd Christian Doidge i’r ymwelwyr.

Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Rabbi Matondo wrth i Schalke deithio i Mainz am gêm gyfartal yn y Bundesliga ddydd Sadwrn. Roedd St. Pauli eisoes ddwy gôl ar ei hôl i pan ddaeth James Lawrence i’r cae yn erbyn Karsruher yn y 2. Bundesliga ac ildio trydedd a oedd hanes ei dîm yn yr hanner awr olaf.

Cafodd Robbie Burton well hwyl arni fel eilydd yng ngêm Dinamo Zagreb yn erbyn Istra 1961 yn Uwch Gynghrair Croatia brynhawn Sul. Daeth i’r cae yn gynnar yn yr ail hanner gyda’i dîm ddwy gôl ar y blaen cyn mynd ymlaen i ennill y gêm o bum gôl i ddim.

Yn naturiol, nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Juventus a deithiodd i Rufain i wynebu Lazio ddydd Sul. Bu’n rhaid i’r chwaraewr canol cae dynnu allan o garfan Cymru ar ôl hercian oddi ar y cae yng ngêm Juve yn erbyn Fercenvaros yng Nghynghrair y Pencampwyr nos Fercher.

 

Gwilym Dwyfor