Fe wnaeth y Scarlets grafu buddugoliaeth o 18-17 dros Zebre yn y PRO14 ym Mharc y Scarlets heno (nos Sul, Tachwedd 8).

Sgoriodd yr asgellwr Ryan Conbeer a’r mewnwr Dane Blacker geisiau, wrth i Angus O’Brien gicio wyth pwynt i sicrhau ail fuddugoliaeth y tymor.

Sgoriodd Pierre Bruno gais yn yr ail hanner, gydag Antonio Rizzi yn cicio 12 pwynt i’r Eidalwyr.