Mae Leinster yn parhau’n ddi-guro yn y PRO14 ar ôl curo’r Gweilch o 26-7 yn Stadiwm Liberty.

Trosgais cosb oedd unig bwyntiau’r Gweilch wrth i’r ymwelwyr sgorio pedwar cais.

Croesodd James Tracy, Dave Kearney, Peter Dooley a Scott Penny i’r Gwyddelod i gipio pwynt bonws, gyda Harry Byrne yn sgorio tri throsiad.