Mae Cymru wedi ennill Cwpan Dartiau’r Byd am y tro cyntaf erioed, ar ôl curo Lloegr o 3-0 yn y rownd derfynol yn Salzburg.

Gerwyn Price a Jonny Clayton oedd y ffefrynnau ar ddechrau’r gystadleuaeth, ac maen nhw wedi codi’r tlws ar y trydydd ymgais ar ôl colli yn y rownd derfynol yn 2010 a 2017.

Fe wnaeth Price guro Smith o 4-1 yn rhan gynta’r ornest i fynd ar y blaen o 1-0, cyn i Clayton guro Cross o 4-2 gyda chyfartaledd tri dart o 105 a thri sgôr o 180, gan daflu dau draean o’i ddyblau’n llwyddiannus, i’w gwneud hi’n 2-0 ar y cyfan.

Yng ngêm y dyblau, enillodd Cymru’r gêm olaf dyngedfennol gyda 15 dart i ennill yr ornest gyfan o 3-0.

Gerwyn Price
Gerwyn Price