Mae Undeb Rygbi Cymru wedi penodi cadeirydd newydd.

Robert Butcher fydd yn olynu Gareth Davies a gollodd ei le ar Gyngor Cenedlaethol Undeb Rygbi Cymru fis Medi.

Cyn asgellwr Cymru, Ieuan Evans, oedd yr ymgeisydd arall am y gadeiryddiaeth.

Mae Rob Butcher, cyn-athro ymarfer corff a fu’n chwarae i Glwb Rygbi Bargoed, wedi bod yn aelod o fwrdd Undeb Rygbi Cymru ers 2015.

“Rwy’n ddiolchgar i’r Bwrdd sydd wedi rhoi eu hyder ynof, ond rwyf hefyd yn ymwybodol o rôl bwysig clybiau rygbi yng Nghymru wedi’i chwarae wrth fy ethol i’w cynrychioli.

“Edrychaf ymlaen at weithio gydag Ieuan Evans, gweddill y Bwrdd a’r Bwrdd Gweithredol wrth i ni barhau i lywio’r effaith y mae’r pandemig wedi’i gael ar ein gêm.

“Byddwn yn goroesi hyn, ond bydd yr hyn rydym yn ei wneud nawr yn cael dylanwad mawr ar ba mor gyflym byddwn yn gwneud hynny.

“Mae wedi bod yn fraint gwasanaethu’r gêm am y pum mlynedd diwethaf a byddaf yn defnyddio’r profiad gwerthfawr hwnnw.”