Mae tîm pêl-droed Cymru yn aros ar frig y tabl yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl curo Gweriniaeth Iwerddon o 1-0 yng Nghaerdydd.

Peniodd David Brooks unig gôl y gêm ar ôl 66 munud i aros un pwynt ar y blaen i’r Ffindir, oedd wedi curo Bwlgaria 2-1.

Bydd pwynt yn ddigon i Gymru yn erbyn y Ffindir nos Fercher (Tachwedd 18) i aros ar y brig.

Dyma’r pedwerydd tro i Gymru ennill o 1-0 yn y gystadleuaeth, ac mae’r canlyniad yn gadael Gweriniaeth Iwerddon yn wynebu gostwng yn y gystadleuaeth ar drothwy eu gêm yn erbyn Bwlgaria.

Er mai’r Gwyddelod aeth i lawr i ddeg dyn ar ôl i Jeff Hendrick lorio Tyler Roberts ar ei ffordd tua’r gôl ddwy funud cyn y diwedd, gallai Cymru’n hawdd iawn fod wedi mynd i lawr i ddeg dyn hefyd ar ôl 37 munud, wrth i Joe Morrell gicio Jayson Molumby o’r llawr.

Mae Cymru bellach yn ddi-guro mewn naw gêm, gyda’r gyntaf o’r rheiny fis Mehefin y llynedd.

Mae Gweriniaeth Iwerddon heb fuddugoliaeth ers blwyddyn a diwrnod, ac wyth awr heb sgorio’r un gôl.

Manylion y gêm

Y Gwyddelod gafodd y cyfle cyntaf yn y munudau agoriadol pan darodd Robbie Brady gic rydd i gyfeiriad Shane Duffy yn y cwrt cosbi, ond hwnnw’n methu cyrraedd y bêl yn lân.

Cafodd Brady gyfle arall ar ymyl y cwrt cosbi yn fuan wedyn, wrth i’r bêl hedfan dros y trawst ar ôl i amddiffyn Cymru fethu â chlirio’r bêl o groesiad Daryl Horgan.

Daeth cyfleoedd wedyn i Brooks a Gareth Bale o bell, wrth i gic rydd Bale daro’r trawst o 35 llath.

Roedd amddiffyn Cymru’n parhau’n sigledig drwy gydol yr hanner cyntaf, a bu’n rhaid i Danny Ward glirio ymdrech James McClean o’r cwrt cosbi.

Cafodd Morell a Molumby gerdyn melyn yr un yn dilyn digwyddiad ar lawr.

Tarodd Brady y bêl dros y trawst cyn yr egwyl.

Ail hanner

Gwelodd Ben Davies gerdyn melyn yn yr ail hanner, sy’n golygu na fydd e’n gallu wynebu’r Ffindir.

Prin oedd cyfleoedd Cymru yn gynnar wedi’r egwyl, ond cawson nhw ail wynt pan ddaeth Kieffer Moore i’r cae yn lle’r cefnwr Rhys Norrington-Davies ar yr awr.

Gwelodd Moore gerdyn melyn am fynd ar lawr wedi tacl ar ymyl y cwrt cosbi, ond daeth y gôl yn fuan wedyn wrth i Daniel James groesi i lwybr Bale wrth y postyn pellaf, a Brooks yn neidio ar y bêl rydd.

Daeth cyfleoedd hwyr i Brooks a Moore yn niwedd y gêm, cyn i’r Gwyddelod fynd i lawr i ddeg dyn ar ôl 93 munud.