Sgoriodd Gavin Coombes hatric o geisiau wrth i Munster guro’r Gweilch o 38-22 yn y PRO14 ym Mharc Thomond.

Mae’r pwynt bonws yn rhoi blaenoriaeth i’r Gwyddelod o wyth pwynt ar frig Cyngres B.

Roedd y tîm cartref ar y blaen o 24-10 ar yr egwyl ar ôl i’r wythwr Coombes, Mike Haley a Kevin O’Byrne groesi ar ôl i Luke Morgan groesi’r llinell i’r Gweilch.

Ond aeth Morgan i’r cell cosb cyn i Coombes groesi am ei ail gais, ac fe ddaeth ei drydydd cais ar ôl 52 munud.

Daeth cais cosb hwyr i’r Gweilch ar ôl i Dewi Lake hefyd groesi.

Mae gan y Gweilch ddwy fuddugoliaeth yn unig mewn chwe gêm, ac maen nhw’n drydydd yng Nghyngres A.

Munster

Ceisiau: Coombes (3), Haley, O’Byrne

Trosiadau: Hanrahan, Scannell, Healy

Ciciau cosb: Healy

Gweilch

Ceisiau: Morgan, Lake, cais cosb

Trosiadau: Myler

Ciciau cosb: Myler