Mae Jonathan Davies, canolwr tîm rygbi Cymru, yn dweud bod y chwaraewyr yn cefnogi’r prif hyfforddwr Wayne Pivac yn llwyr.
Daw ei sylwadau ar ôl cyfnod o chwe gêm fuddugoliaeth i’r tîm, ar ôl iddyn nhw golli o 32-9 yn erbyn Iwerddon yng Nghwpan y Cenhedloedd yn Nulyn nos Wener (Tachwedd 13).
Dyma’r rhediad gwaethaf o ran canlyniadau i’r tîm cenedlaethol ers wyth mlynedd.
Cafodd Wayne Pivac ei benodi’n olynydd i Warren Gatland flwyddyn yn ôl.
Georgia yw’r gwrthwynebwyr nesaf ddydd Sadwrn nesaf (Tachwedd 21), ac yna byddan nhw’n herio Lloegr ym Mharc y Scarlets yr wythnos ganlynol.
‘Newid mewn ffordd bositif’
“Rydyn ni’n mwynhau paratoi’r cynllun mae e ei eisiau yn yr wythnos,” meddai Jonathan Davies.
“Ond y peth ar hyn o bryd yw fod angen i ni sicrhau ein bod ni’n dylifro ar ddiwrnod y gêm.
“Mae rhywfaint o newid wedi bod, ond mae’r newid wedi bod mewn ffordd bositif.
“Mae angen i ni sicrhau fod y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn ystod yr wythnos yn dwyn ffrwyth.
“Mae ein lefelau rhwystredigaeth yn eithriadol o uchel oherwydd dydyn ni ddim yn cyflwyno o ran hynny.”
‘Gwelliannau mewn rhai llefydd’
Yn dilyn y cyfnod siomedig, collodd Byron Hayward ei swydd yn hyfforddwr amddiffyn – a hynny er bod sawl agwedd ar y chwarae wedi bod yn wan.
“Ar ôl yr egwyl hir iawn gawson ni yn sgil Covid, dw i’n credu ein bod ni wedi bod yn araf yn gadael y blociau,” meddai’r canolwr wedyn.
“Roedden ni’n hwyr yn dod yn ôl i rygbi ranbarthol a’r gêm ryngwladol hefyd.
“Yn draddodiadol, fwya’ o amser rydyn ni’n treulio gyda’n gilydd, gorau ydyn ni, ac rydyn ni’n gweld gwelliannau mewn rhai llefydd.
“Dydyn ni ddim cweit yno eto o ran y cynnyrch cyfan, a rhaid parhau i ganolbwyntio ar gydweithio i sicrhau ein bod ni’n cyflwyno safonau uchel.
“Pan ydyn ni’n troi i fyny ar gyfer gemau prawf, rydyn ni’n gwybod o ran y garfan a’r criw o hyfforddwyr sydd gyda ni a’r paratoi rydyn ni wedi’i wneud fod popeth o safon fyd-eang.
“Mae angen sicrhau ar ddiwrnod gemau ein bod ni’n cael canlyniadau gwell i ddangos hynny i’r cyhoedd yng Nghymru.”
Diffyg disgyblaeth
Yn ôl Jonathan Davies, diffyg disgyblaeth yw un o’r prif wendidau ar hyn o bryd, ar ôl i Gymru ildio 34 o giciau cosb yn y gemau yn erbyn yr Alban ac Iwerddon.
“Mae diffyg disgyblaeth wedi bod yn ffactor enfawr yn y tair gêm ddiwethaf rydyn ni wedi’u colli,” meddai.
“Mae wedi costio nifer fawr iawn o bwyntiau i ni a dydyn ni ddim yn derbyn hynny o gwbl.
“Mae angen i ni wella yn yr ardal honno oherwydd allwn ni ddim fforddio mynd ar gefnau timau i lefydd lle maen nhw’n gallu ymosod neu gael pwyntiau hawdd.”
Anaf
Yn y cyfamser, mae Jonathan Davies yn dilyn protocol anafiadau ar ôl cael ergyd i’w benglin yn Nulyn.
“Dw i’n dilyn y protocolau adferiad a bydd rhaid i fi weld sut mae’n setlo,” meddai.
“Mae’n dal yn gynnar ar hyn o bryd ond rhaid i fi sicrhau fy mod i’n gofalu nawr.
“Rhaid i fi godi ‘nghoes, gorffwys ac adfer yn dda.”