Fe wnaeth y Scarlets guro Connacht oddi cartref o 20-14 yn y PRO14 yn y gwynt a’r glaw neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 14).

Sgoriodd Ryan Conbeer ddau gais – ei drydydd mewn dwy gêm – wrth i’r Scarlets fynd ar y blaen o 13-7 ar yr egwyl.

Er i Abraham Papali’i ac Ultan Dillane sgorio ceisiau, roedd cais Dane Blacker ar ôl 42 munud yn ddigon i’w codi nhw i frig Cyngres B.

Cafodd Johnny McNicholl ei enwi’n seren y gêm am ei ymosodiadau cryf.

Dyma’r tro cyntaf i’r Scarlets ennill yn Galway ers 2017.