Roedd y Cymru Premier yn ôl y penwythnos hwn yn dilyn cyfnod rhyfedd yn ystod y clo byr pan y cafwyd llond llaw o gemau wrth i rai timau barhau i chwarae ac eraill ddim.

Y timau rheiny? Wel y mawrion wrth gwrs, Y Seintiau Newydd, Cei Connah, Y Bala a… ym… Hwlffordd! Ta waeth am hynny, roedd hi’n braf gweld y gweddill yn ôl y penwythnos hwn.

 

 

Caernarfon 1-2 Cei Connah

Roedd angen gôl hwyr ar Gei Connah wrth i’r pencampwyr drechu Caernarfon mewn gêm lawn digwyddiadau ar yr Oval nos Wener.

Wedi hanner cyntaf di sgôr, roedd hi’n ymddangos fod sioc ar y gweill wedi i Mike Hayes roi’r Cofis ar y blaen ddeg munud wedi’r egwyl, yn gorffen yn dda wrth y postyn agosaf o groesiad Sion Bradley.

Roedd Andy Morrison yn gandryll gyda pherfformiad ei dîm a bu’n rhaid iddo aros tan chwarter awr o’r diwedd cyn iddynt unioni pethau, dau hen ben yn cyfuno, Mike Wilde yn gwyro peniad Aeron Edwards i gefn y rhwyd.

Cic o’r smotyn?

Cic o’r smotyn ddadleuol a’i henillodd hi i’r Nomadiaid yn yr ail funud o amser a ganiateir am anafiadau ar ddiwedd y gêm wrth i Danny Brookwell lorio Callum Morris yn y cwrt cosbi.

Er nad oedd y cyffyrddiad yn amlwg o’r lluniau teledu, roedd sgrech Morris i’w chlywed o Ysbyty Gwynedd ac, er tegwch iddo, roedd y dyfarnwr, Lee Evans, mewn safle perffaith.

Cododd Callum megis Lasarus i sgorio o’r smotyn.

Llanast llwyr

Gorffennodd y gêm mewn llanast llwyr ac embaras i’r ddau dîm. Aeth Paulo Mendes ac Aeron Edwards i mewn am 50/50 digon teg yng nghanol y cae a daeth chwaraewr Cei Connah allan ohoni’n waeth.

Gorymatebodd ambell un o’i dîm a chafwyd sgarmes yn y cylch canol yn cynnwys pob chwaraewr ar y cae yn fwy neu lai. Arweiniodd hynny at gerdyn coch i amddiffynnwr Cei Connah, Callum Roberts, a’u gôl-geidwad, Lewis Brass, a redodd yr holl ffordd o’i gôl i ymuno yn y wreslo.

Derbyniodd Noah Edwards ail gerdyn melyn am ei ran ef yn y sioe ac fe orffennodd Caernarfon y gêm gyda naw dyn hefyd wedi i Bradley dderbyn cerdyn coch mewn digwyddiad diweddarach.

Nid yw golygfeydd fel hyn yn dderbyniol ar y gorau ond dyma ddau glwb sydd mewn safle breintiedig fel rhai o’r ychydig dimau pêl-droed yng Nghymru sydd yn cael chwarae ar hyn o bryd. Efallai y dylent gofio hynny y tro nesaf cyn mynd yng ngyddfau’i gilydd fel plant ar iard ysgol, neu yn waeth fyth… chwaraewyr rygbi!

Be’ ti’n ei Insall-irêtio?

Un a oedd yn anhapus ar Twitter fod Sgorio wedi tynnu sylw at y digwyddiadau annymunol ar ddiwedd y gêm mewn modd ysgafn a oedd blaenwr Cei Connah, Jamie Insall.

Yn wir, mae’n rhwystredig mai digwyddiadau fel hyn, neu wynt cryf yn creu hafoc neu lifoleuadau’n methu sydd yn dueddol o ddenu sylw ehangach i’r gynghrair bob tro. Ond efallai y dylai Jamie edrych yn nes at adref ac ar ymddygiad ei gyd chwaraewyr.

 

 

Met Caerdydd 1-1 Aberystwyth

Gôl yr un a phwynt yr un a oedd hi wrth i Aberystwyth deithio i Gampws Cyncoed i herio Met Caerdydd nos Wener.

Pwynt sydd yn gwahanu’r ddau dîm yng nghanol y tabl o hyd wedi iddynt golli cyfle i godi i’r chwech uchaf.

Y teithiwr talog

Hwn a oedd ymddangosiad cyntaf Matias Etchegoyen i Aberystwyth ers ymuno ar ddiwedd y ffenestr drosglwyddo, cyn y clo byr.

Pwy a ŵyr sut yn union y mae Archentwr sydd wedi chwarae’i bêl droed yn ei famwlad yn ogystal â’r Eidal, Venezuela a Gibraltar wedi cyrraedd Ceredigion yng nghanol pandemig byd eang ond go brin ei fod yn chwarae am bres petrol yn unig.

Y goliau

Bu’n rhaid aros tan yr ail hanner am y ddwy gôl. Daeth y gyntaf i’r ymwelwyr ddeg munud wedi’r egwyl, Marc Williams yn gorffen yn dilyn symudiad slic gan Jack Rimmer a Steff Davies i lawr y dde.

Roedd y myfyrwyr yn gyfartal chwarter awr o’r diwedd wrth i Ashton Ajibola-Gleed fanteisio ar amddiffyn gwael yng nghwrt cosbi Aber i gipio pwynt i’r tîm cartref.

 

 

Derwyddon Cefn G-G Hwlffordd

Gohiriwyd y gêm wedi i un o chwaraewyr Hwlffordd brofi’n bositif am Covid-19.

  

 

Y Bala 4-1 Pen-y-bont

Mae’r Bala yn cadw’r pwysau ar y Seintiau Newydd ar frig y gynghrair ar ôl curo Pen-y-bont ar Faes Tegid brynhawn Sadwrn.

Er iddynt fynd ar ei hôl hi fe darodd tîm Colin Caton yn ôl gyda phedair gôl i ennill yn gyfforddus a chodi i’r ail safle yn y tabl.

Ben i Ben-y-bont

Bydd unrhyw un a ddilynodd rediad STM Sports i rownd derfynol Cwpan y Gynghrair y tymor diwethaf yn gyfarwydd â rhinweddau Ben Ahmun fel blaenwr.

Mae’n dda yn yr awyr ac roedd hynny’n amlwg eto wrth iddo roi’r ymwelwyr ar y blaen hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf gyda pheniad celfydd o groesiad Kane Owen.

Y Bala’n taro nôl

Peniad dipyn llai gosgeiddig a unionodd y sgôr i’r Bala ddau funud yn ddiweddarach wrth i’r profiadol, Ismail Yakubu, benio i’w rwyd ei hun.

Rhoddodd Chris Venables y tîm cartref ar y blaen o’r smotyn wedi i draed cyflym Henry Jones brofi’n rhy ddryslyd i Matthew Harris.

Amddiffyn amheus

Anffodus a oedd gôl Yakubu i’w rwyd ei hun ond braidd yn chwerthinllyd a oedd un Oliver Dalton a ymestynnodd fantais y Bala cyn yr egwyl. Do, fe wnaeth Will Evans waith da ar yr asgell chwith ond nid oedd unrhyw berygl o’i groesiad a dim pwysau o gwbl ar Dalton yn y cwrt cosbi wrth iddo wyro’r bêl heibio i’w golwr ei hun!

Camgymeriad arall gan Ben-y-bont a arweiniodd at bedwaredd y Bala yn yr ail hanner. Fe ddylai Ashley Morris fod wedi casglu ergyd Oliver Shannon ond gwyrodd hi’n syth i Evans yn y cwrt chwech i roi’r gôl a’r tri phwynt ar blât.

 

 

Y Drenewydd 3-2 Y Fflint

Tarodd y Drenewydd yn ôl ddwywaith i gipio’r tri phwynt yn erbyn y Fflint ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.

Gwahaniaeth goliau’n unig  a oedd yn gwahanu’r ddau dîm ar ddechrau’r gêm ond tra mae’r Fflint yn aros yn safleoedd y gwymp, mae golygon y Drenewydd bellach yn troi at yr hanner uchaf wrth iddynt symud o fewn dau bwynt i’r chweched safle.

Dechrau da i’r ymwelwyr

Aeth y Fflint ar y blaen wedi dim ond deuddeg munud, Callum Bratley yn cwblhau gwrthymosodiad slic ond Dave Jones yn cael ei guro yn rhy hawdd o lawer wrth ei bostyn agosaf.

Roedd y Drenewydd yn gyfartal cyn yr egwyl serch hynny wedi i groesiad y dyn lleol, Neil Mitchell, wyro i gefn y rhwyd.

Faulkes yn tanio’r Fflint

Ychydig dros wythnos wedi noson Guto Ffowc, Richie Faulkes a oedd yn tanio i’r Fflint, yn adfer mantais yr ymwelwyr yn gynnar yn yr ail hanner.

Ond yn ôl y daeth y Robiniaid drachefn gyda chystadleuydd am gôl y mis, symudiad slic i lawr y dde yn arwain at beniad gwych gan Nick Rushton.

I lawr y dde y daeth gôl fuddugol y Drenewydd hefyd, Tyrone Ofori yn sgorio y tro hwn, yn troi ac ergydio mewn un symudiad slic ar ochr y cwrt chwech.

 

 

Y Seintiau Newydd 2-1 Y Barri

Dewis peidio â chwarae a wnaeth y Barri yn ystod y clo byr, nid o ran diffyg staff proffesiynol ond “o ran tegwch” i rai o’r clybiau eraill yn y gynghrair.

Awgrymodd ambell un sinigaidd fod hynny’n gyfleus iawn o ystyried eu rhestr anafiadau ar y pryd! Boed gwirionedd yn hynny ai peidio, does dim dwywaith i dîm da iawn deithio i Neuadd y Parc nos Sadwrn a rhoi gêm gystadleuol iawn i’r Seintiau Newydd o flaen camerâu Sgorio.

Hunllef Hugh

Mae cefnwr chwith y Barri, Chris Hugh, yn chwaraewr da iawn ond nid dyma ei gêm orau erioed.

Er cystal peniad Louis Robles toc cyn yr egwyl roedd yn anelu’n syth at ddwylo Mike Lewis yn y gôl cyn i Hugh ei wyro i do’r rhwyd, y Seintiau ar y blaen wrth droi.

Yna, cafodd yr amddiffynnwr ei ddal allan o’i safle wrth i’r tîm cartref ddyblu eu mantais ddeunaw munud o ddiwedd y gêm. Holltodd pas Jon Routledge yr amddiffyn cyn i Robles sgwario’r bêl i Draper i rwydo.

Diweddglo cyffrous

Os oedd hi’n ymddangos fod y gêm ar ben roedd gan yr ymwelwyr, a Hugh, syniadau gwahanol. Croesiad gwych y cefnwr a roddodd gôl ar blât i Nat Jarvis chwarter awr o’r diwedd ac roedd y Barri yn ôl yn y  gêm.

Ac roeddynt yn meddwl eu bod yn haeddu cic o’r smotyn wedi hynny pan gafodd Kayne McLaggon ei lorio yn y cwrt cosbi gan Blaine Hudson. Nid felly y gwelodd David Morgan bethau serch hynny gan roi cerdyn melyn i’r blaenwr am blymio. Ac er tegwch i’r dyfarnwr, er bod cysylltiad rhwng yr amddiffynnwr a’r blaenwr, fe wnaeth McLaggon hyrddio ei hun i’r llawr.

Mae’r fuddugoliaeth yn cadw’r Seintiau bum pwynt yn glir ar frig y tabl.

 

Gwilym Dwyfor