Mae Robert Page a Ben Davies yn dweud bod Gareth Bale yn edrych ar ei orau o ran ei ffitrwydd cyn i dîm pêl-droed Cymru herio Gweriniaeth Iwerddon yng Nghaerdydd yfory (dydd Sul, Tachwedd 15).
Mae Cymru’n chwarae dwy gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd yr wythnos hon, wrth iddyn nhw hefyd herio’r Ffindir nos Fercher (Tachwedd 18).
Maen nhw ar frig eu grŵp a byddai dau ganlyniad da yn eu codi i’r lefel nesaf yn y gystadleuaeth.
“Mae e wedi bod yn wych drwy gydol yr wythnos,” meddai’r rheolwr dros dro am Gareth Bale, sy’n disgwyl dychwelyd ar ôl gorffwys yn ystod y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Stadiwm Liberty.
“Fe wnes i siarad am y bois mwyaf profiadol a sut maen nhw’n gyrru’r safonau.
“Dyw e ddim wedi bod yn ddim gwahanol, ers i ni chwarae’r Unol Daleithiau.
“Roedd y sesiwn a’r adferiad gawson ni heddiw yn wych, ac mae Gareth, Ben a Gunts [Chris Gunter] wedi gyrru hynny. Maen nhw wedi bod yn rhagorol.
“Mae [Gareth Bale] fwy na thebyg yn fwy ffit nag ydw i wedi’i weld e ers i fi fod ynghlwm wrth dîm cyntaf Ryan [Giggs].
“Mae e’n edrych fel pe bai e mewn cyflwr da.”
Cafodd ei sylwadau eu hategu gan Ben Davies, un o’i gyd-chwaraewyr yn Spurs erbyn hyn.
“Mae’n grêt i weld Gareth yn chwarae’n aml eto a phan mae e’n dod mewn i’r camp mae e wastod yn hapus i chwarae dros Gymru ac y’n ni’n gallu gweld hwnna ar y cae bob dydd,” meddai.
“Felly os yw e’n gallu gwneud beth mae e wedi gwneud i Gymru y cwpwl o flynyddoedd diwetha’ eto byddwn ni’n hapus iawn.”
Tactegau yn erbyn Iwerddon
Dywed Ben Davies ei fod e’n disgwyl gêm anodd a chorfforol yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon.
“Dan ni’n garfan hyderus,” meddai.
“Mae’r bois i gyd yn barod am beth fydd Iwerddon yn taflu aton ni ac ry’n ni’n gwybod fydd hi’n gêm anodd eto, ond gobeithio bod yr hyder o’r gemau diwetha’n gallu helpu ni drwyddo.
“Ni’n chwarae yn erbyn nhw lot nawr, ac mae’r gemau ran fwya’r amser i gyd yr un peth – gemau agos a chorfforol lle mae’n rhaid i ni fod yn barod am bopeth maen nhw’n taflu aton ni.”
Un o agweddau mwyaf siomedig y perfformiadau diweddar, er iddyn nhw gadw cyfres o lechi glân, yw’r diffyg goliau ym mlaen y cae – agwedd maen nhw’n gobeithio fydd yn gwella wrth i Bale ddychwelyd i’w orau.
“Mae’r bois lan y top yn trio ym mhob gêm i gael y goliau i ni ond mae’r gemau ar y lefel yma’n anodd weithiau,” meddai Ben Davies.
“Pan y’ch chi’n cael chwaraewyr da, mae’r timau eraill yn edrych arnoch chi a trio atal chi rhag cael y goliau.
“Mae’r gemau wastod yn mynd i fod yn fwy anodd os y’ch chi’n chwarae’n dda.
“Mae’n rhaid i ni jyst cario ymlaen a gwneud beth y’n ni’n gwneud a dwi’n siŵr gyda’r chwaraewyr sydd gyda ni byddwn ni’n gallu cael y goliau.”
Gweriniaeth Iwerddon ar eu newydd wedd
Mae gan Weriniaeth Iwerddon reolwr newydd, Stephen Kenny, ac maen nhw’n dal mewn cyfnod o addasu i’r newid hwnnw – rhywbeth mae Robert Page yn gobeithio manteisio arno.
“Rydyn ni’n mynd ati yn yr un ffordd ag y gwnaethon ni pan wnaethon ni chwarae yn eu herbyn nhw oddi cartref,” meddai.
Bryd hynny, fe gawson nhw gêm gyfartal ddi-sgôr, gyda’u buddugoliaeth ddiwethaf yn eu herbyn yng Nghaerdydd yn 2018 yn un swmpus o 4-1.
Ond mae Robert Page yn deall mai tîm ar ei newydd wedd yw’r un hwn.
“Ry’n ni’n gwybod eu bod nhw yng nghanol cyfnod o newid ar hyn o bryd gyda’r rheolwr newydd a bod ganddo fe ei athroniaeth ei hun ynghylch sut mae e eisiau chwarae, a bydd hi’n cymryd sbel i’r chwaraewyr addasu i hynny,” meddai.
“Rydyn ni’n gweld arwyddion o hynny yn barod.
“Ond unrhyw bryd rydych chi’n chwarae yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, mae’n mynd i fod yn frwydr anodd a chorfforol.
“Rhaid i ni ymateb i hynny yn y lle cyntaf, a fel dwi wedi dweud wrth y bois heddiw, mae gyda ni ddigon o ansawdd yn yr ystafell newid i ofyn cwestiynau iddyn nhw a’u profi nhw.
“Os gwnawn ni bopeth yn iawn a’u bod nhw’n gwneud popeth ry’n ni’n gofyn iddyn nhw ei wneud ac yn ymddiried yn y broses, dw i’n siŵr y cawn ni ddiwrnod da.”