Mae Robert Page yn wynebu prawf mwyaf ei yrfa dros y dyddiau nesaf wrth iddo geisio sicrhau dyrchafiad i Gymru yng ngemau Cynghrair y Cenhedloedd.
Ef sy’n gyfrifol am gemau Cymru am y mis ar ôl i’r rheolwr Ryan Giggs gamu o’r neilltu yn dilyn adroddiadau amdano’n cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.
Ar ôl y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau nos Iau, mae’n wynebu’r her o geisio sicrhau canlyniadau da yn erbyn Iwerddon yfory a’r Ffindir nos Fercher.
Mae Cymru’n paratoi ar gyfer y ddwy gêm o sefyllfa o gryfder ar frig grwp B4. Maen nhw wedi ennill 10 pwynt mewn pedair gêm – un un fwy na’r Ffindir.
Does dim amheuaeth fod Robert Page yn adnabod ei chwaraewyr yn dda iawn, ar ôl gweithredu fel rheolwr tîm dan 21 Cymru am ddwy flynedd a hanner, ac fel aelod o staff Ryan Giggs dros y 15 mis diwethaf. Er hynny, fe fydd mwy o bwysau nag erioed o’r blaen arno i gyflawni.
Er gwaethaf perfformiad siomedig yn y gêm gyfeillgar yn erbyn yr Unol Daleithiau nos Iau, fe fydd dychweliad Gareth Bale yn hwb i obeithion Cymru yfory.
“Mae bob amser yn broffesiynol ers iddo gychwyn chwarae i’w glwb a’i wlad,” meddai capten Cymru, Chris Gunter.
“Pryd bynnag mae’n chwarae gyda Chymru mae’n perfformio i lefel hynod o uchel. Mae union yr un fath ers inni gychwyn chwarae gyda’n gilydd mewn timau o dan 17.
“Rydym yn lwcus o’i gael a gobeithio y gall wneud dros yr wythnos nesaf yr hyn mae wedi bod yn ei wneud ers llawer blwyddyn inni.”