Llwyddodd tîm dan-21 Cymru i guro Moldova 3-0 yn Wrecsam ddoe, yn eu gêm gartref olaf yn ymgyrch Euro 2021.

Er nad oedden nhw’n gallu cymhwyso ar gyfer y rowndiau terfynol, cafwyd perfformiad cryf yn yr ail hanner gyda goliau gan Terry Taylor, Nathan Broadhead a Mo Tourey.

Fe fydd Nathan Broadhead a Mo Tourey yn chwarae eu gêm olaf yn erbyn yr Almaen yr wythnos nesaf cyn dod yn rhy hen i chwarae i’r tîm.

“Dw i wrth fy modd o gael fy gôl gyntaf i’r tîm dan 21,” meddai Mo Tourey ar ôl y gêm.

“Allwn ni ddim cymhwyso nawr, ond ein nod yw gwneud i dimau eraill feddwl y gallwn wneud ymdrech deilwng er hynny. Y cyfan rydym ei eisiau yw gorffen mor uchel ag y gallwn ni.”