Colli gwnaeth Cymru yn erbyn Iwerddon yng ngêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn Nulyn.

Roedd hi’n ddechrau tanllyd i Gymru yn Stadiwm Aviva a bu rhaid i’r dyfarnwr, Mathieu Raynal, ymyrryd ar ôl dau ddigwyddiad oddi ar y bel o fewn y pum munud cyntaf.

Johnny Sexton, a oedd yn ennill ei ganfed cap, hawliodd y pwyntiau cynnar a rhoi’r tîm cartref ar y blaen gyda’i gic gosb wedi naw o funudau.

Yn fuan wedyn ildiodd Robbie Henshaw gic gosb o flaen y pyst ac ychwanegodd Leigh Halfpenny dri phwynt hawdd at y sgôr.

Daeth cais cyntaf y gêm i Quinn Roux wedi iddo rwygo ei ffordd drwy amddiffyn Cymru a chroesi’r llinell. Roedd y chwaraewr ail reg yn un o ddau newid hwyr i dîm Iwerddon ar ôl i Iain Henderson a Jacob Stockdale dynnu allan o’r gêm cyn y gic gyntaf.  Yn fuan wedi trosi’r cais ychwanegodd Sexton dri phwynt hawdd at y sgôr fwrdd cyn gorfod gadael y cae gydag anaf i’w goes.

Ciciodd Halfpenny dri phwynt arall i roi Cymru nôl o fewn saith pwynt, ond manteisiodd y Gwyddelod ar gamgymeriadau Cymru a chiciodd yr eilydd Billi Burns ei gic gosb gyntaf i’w wlad i ymestyn mantais Iwerddon.

Ychydig cyn yr hanner daeth y prop Wyn Jones ymlaen yn lle Rhys Carré i ennill sgrym bwysig yn nwy ar hugain Cymru.

Hanner amser: Iwerddon 16–6 Cymru

Roedd dechrau’r ail hanner yn debyg i ddechrau’r hanner cyntaf gyda lein i Gymru yn nwy ar hugain y Gwyddelod.

Er y newid i’r rheng flaen ar ddiwedd yr hanner cyntaf parhau i fynd yn erbyn Cymru wnaeth y sgrymiau.

Cicodd Burns a Halfpenny gic gosb yr un ac ar ôl gwneud cyfres o newidiadau roedd hi’n edrych fel bod Cymru yn ail afael yn y gêm.

Un o’r newidiadau hynny oedd George North a ddaeth ymlaen yn lle Jonathan Davies i ennill ei ganfed cap – yn 28 oed North yw’r chwaraewr ieuengaf yn hanes y gêm i gyrraedd y garreg filltir.

Daeth maswr Bryste Callum Sheedy hefyd ymlaen i ennill ei gap cyntaf i Gymru o’r fainc.

Ond tarrodd Connor Murray yn ôl gyda dwy gic gosb arall at y pyst yn y chwarter olaf.

Roedd y Gwyddelod yn parhau i bwyso yn ystod y munudau olaf ac wedi i’r cloc droi’n goch croesodd James Lowe, a oedd yn ennill ei gap cyntaf, y gwyngalch i hawlio’r bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i’r Gwyddelod yn erbyn Cymru.

Iwerddon
32-9
Cymru

Roux, Lowe

Ceisiau

Sexton, Murray Trosiadau

Sexton (2), Burns (2), Murray (2)

Ciciau Cosb

Halfpenny (3)

Tîm Cymru

Olwyr: Leigh Halfpenny, Liam Williams, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies

Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (C), Shane Lewis-Hughes, Justin Tipuric, Taulupe Faletau

Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Samson Lee, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy*, George North

*Cap cyntaf

 

Tîm Iwerddon

Olwyr: Hugo Keenan, Andrew Conway, Chris Farrell, Robbie Henshaw, James Lowe*, Jonathan Sexton (C), Jamison Gibson Park

Blaenwyr: Cian Healy, Ronan Kelleher, Andrew Porter, Quinn Roux, James Ryan, Peter O’Mahony, Josh van der Flier, Caelan Doris

Eilyddion: Dave Heffernan, Ed Byrne, Finlay Bealham, Tadhg Beirne, Will Connors, Conor Murray, Billy Burns*, Keith Earls

*Cap cyntaf

 

Dyfarnwr: Mathieu Raynal (Ffrainc)

Dyfarnwyr cynorthwyol: Pascal Gauzere ac Alex Ruiz (Ffrainc)

TMO: Romain Poite (Ffrainc)