Mae gan Gymru bwynt i’w brofi wrth herio Iwerddon yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref heno (Tachwedd 13), meddai’r blaenwr Tomos Francis.

Mae Cymru’n teithio i Ddulyn ar ôl colli pum gêm yn olynol, sef y rhediad gwaethaf o ganlyniadau ers 2016.

A daw’r ornest yn Stadiwm Aviva ar ôl i’r Alban hawlio’u buddugoliaeth gyntaf yng Nghymru ers 18 mlynedd.

Gadawodd hyfforddwr amddiffyn Cymru Byron Hayward ei swydd yn dilyn y canlyniad hwnnw.

Dim ond dwy gêm mae Cymru wedi ennill ers i Wayne Pivac olynu Warren Gatland fel prif hyfforddwr Cymru, a’r rheini yn erbyn y Barbariaid a’r Eidal.

“Dydw i ddim wir yn poeni beth mae pobl yn ei ysgrifennu neu’n ei ddweud, sut rydyn ni’n teimlo fel carfan sy’n bwysig,” meddai Tomos Francis, sy’n ennill ei 50fed cap yn Stadiwm Aviva.

“Rydyn ni’n gwybod nad oeddem yn ddigon da yn erbyn yr Alban, ac mae gennym bwynt i’w brofi i ni’n hunain, nid i neb arall.

“Mae’n rhaid i ni roi balchder yn ôl yn y crys ac yn ein perfformiad.

“Mae’n rhaid i ni ennill y parch hwnnw’n ôl, ac mae gennym gyfle mawr i wneud hynny.

“Doedd [y perfformiad yn erbyn] yr Alban ddim yn ddigon da, rydyn ni’n gwybod hynny. Ond os yw’r chwaraewyr yn gwybod hynny, dyna’r cyfan sydd ei angen arnoch – nid yw dylanwadau allanol yn bwysig mewn gwirionedd.”

50 o gapiau

Chwaraeodd Tomos Francis ei gêm brawf gyntaf dros ei wlad wrth i Gymru ennill yn Nulyn bum mlynedd yn ôl.

“Pe baech wedi gofyn i mi chwe blynedd yn ôl a fyddwn yn chwarae 50 Prawf i Gymru, fyddwn i ddim wedi breuddwydio am y peth hyd yn oed,” meddai.

“Mae’n drueni na all fy nheulu a fy ffrindiau fod yno, ond mae’n gystadleuaeth newydd a dyna lle gefais fy nghap cyntaf hefyd, sy’n eithaf addas.

“Dydw i ddim yn meddwl, pe baech chi’n dweud wrthyf pan oeddwn i’n 20 oed, y byddwn wedi ennill 50 o gapiau erbyn hyn, y byddwn wedi eich credu.”