Gorffennodd gêm gyfeillgar tîm pêl-droed Cymru yn erbyn yr Unol Daleithiau yn gyfartal ddi-sgôr ar ddiwedd 90 munud di-fflach yn Stadiwm Liberty yn Abertawe.

Prin iawn oedd y cyfleoedd a ddaeth i’r naill dîm a’r llall, ac mae’n bosib y bydd mwy o gwestiynau nag o atebion i’r rheolwr dros dro Rob Page a’i dîm cynorthwyol cyn y gemau yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd dros yr wythnos nesaf.

Roedd Cymru heb nifer o’u chwaraewyr, gan gynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey, yn ogystal â’r rheolwr Ryan Giggs, sydd wedi camu o’r neilltu am y tro ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod.

Ond fe enillodd Chris Gunter gap rhif 98 wrth gael “yr anrhydedd fwyaf” o gael ei enwi’n gapten.

Dychwelodd y golwr Danny Ward i’r tîm, yn ogystal â’r amddiffynnwr Tom Lockyer a’r ymosodwr Tom Lawrence.

Roedd cap cyntaf i’r Americanwr Gio Reyna, mab Claudio Reyna, ar noswyl ei ben-blwydd yn 18 oed.

Cyn y gic gyntaf, daeth chwaraewyr yr Unol Daleithiau i’r cae yn gwisgo negeseuon gwrth-hiliaeth ar eu cefnau ar ôl dweud yn gynharach yr wythnos hon fod cynlluniau ar y gweill i gydnabod ymgyrch Black Lives Matter wrth i’r tîm cenedlaethol chwarae am y tro cyntaf ers llofruddiaeth George Floyd ym Minneapolis.

Dechreuodd yr ymwelwyr yn gadarn yn yr hanner awr cychwynnol, wrth i Gymru geisio gwrthymosod pan gawson nhw feddiant prin.

Fe wnaeth Tom Lawrence ergydio at y golwr Zack Steffen ar ôl chwarter awr ond daeth cyfle gorau’r hanner cyntaf i Konrad de la Fuente wrth iddo fe ergydio dros y trawst o’r tu fewn i’r cwrt cosbi.

Ail hanner

Bu’n rhaid i Gymru wneud sawl newid yn yr ail hanner ac fe wnaeth eu perfformiad wella ychydig wrth gynyddu’r tempo.

Cafodd Brennan Johnson gyfle gyda’i gyffyrddiad cyntaf ar ôl awr, ar ôl i eilydd arall, Daniel James ryng-gipio’r bêl a’i hanfon i lwybr Johnson cyn i Steffen arbed y bêl.

Daeth cyfle hwyr i’r Americanwyr cyn y chwiban olaf wrth i’r eilydd Ulysses Llanez orfodi Danny Ward i wneud arbediad oddi ar ergyd o’r tu allan i’r cwrt cosbi.

Bydd sylw’r tîm hyfforddi nawr yn troi at ddydd Sul (Tachwedd 15), pan fydd Gweriniaeth Iwerddon yn teithio i Gaerdydd yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Ymateb

“Roedd hi’n gêm anodd ac yn y pen draw, fe gymerwn ni lechen lân a symud ymlaen at ddwy gêm fawr yr wythnos nesaf,” meddai Chris Gunter wrth S4C ar ôl seithfed llechen lân Cymru mewn wyth gêm.

“Mae’n bwysig.

“Gyda’r chwaraewyr sydd gyda ni yn y garfan, os ydyn ni’n cadw llechen lân, yn amlach na pheidio rydyn ni’n ddigon da i sgorio goliau.

“Yn amlwg, wnaeth hynny ddim digwydd heno, ond os gallwch chi adeiladu ar seiliau cadarn, mae’n rhoi cyfle i chi bob amser.

“Mae’n destun pleser pan gewch chi lechen lân.

“Nid dim ond y pedwar yn y cefn a’r golwr sydd, ond tîm cyfan.

“Ond dw i’n falch dros Wardy [Danny Ward] wrth iddo fe ddod i mewn ar ôl sbel ac ro’n i’n meddwl ei fod e’n wych.

“Fe gymerwn ni hyn a symud ymlaen nawr i’r gemau mawr.”