Mae Tyler Adams, un o bêl-droedwyr yr Unol Daleithiau, yn dweud bod y tîm yn gwneud trefniadau i gynnal protest Black Lives Matter cyn y gêm yn erbyn Cymru yn Stadiwm Liberty nos Iau (Tachwedd 12).

Hon fydd gêm gynta’r tîm cenedlaethol ers marwolaeth George Floyd, dyn croenddu, dan law’r heddlu ym Minneapolis ym mis Mai ar ôl i blismon wasgu ei wddf am rai munudau.

Mae’r digwyddiad wedi arwain at brotestiadau ym mhob cwr o’r byd, ac mae nifer o’r chwaraewyr eisoes wedi ymddangos mewn fideo yn trafod y digwyddiad a gafodd ei threfnu gan y pêl-droediwr Weston McKennie.

“Mae trafodaethau mewnol wedi’u cynnal ynghylch hynny,” meddai Tyler Adams.

“Rydyn ni’n aros i raddau tan ddiwrnod y gêm i ddangos sut y gallwn ni gael cydnabyddiaeth i’r sefyllfa.

“Heb ddatgelu gormod, rydyn ni jyst eisiau parhau i addysgu pobol am yr hyn sy’n digwydd ac sy’n parhau i ddigwydd.

“Bydd yna rywbeth bach rydyn ni’n ei wneud ar ddiwrnod y gêm.

“Mae’r trafodaethau mewnol wedi bod yn wych, o fewn y tîm yn cefnogi’n gilydd, yn rhannu barn ein gilydd, a sut mae pobol yn amgyffred rhai sefyllfaoedd a’u barn am hynny.

“Mae’r trafodaethau agored ac anodd hynny wedi bod o help mawr i’r tîm.”