Ryan Giggs sydd wedi dewis carfan bêl-droed Cymru fydd yn herio’r Unol Daleithiau, Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir, yn ôl y rheolwr dros dro Rob Page.
Mae Giggs wedi camu o’r neilltu am y tro ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad ym Manceinion Fwyaf a’i ryddhau ar fechnïaeth.
Mae Giggs yn gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Bydd Cymru’n herio’r Unol Daleithiau mewn gêm gyfeillgar nos Iau (Tachwedd 12), cyn herio Gweriniaeth Iwerddon nos Sul (Tachwedd 15) a’r Ffindir nos Fercher nesaf (Tachwedd 18) mewn gemau rhagbrofol yng Ngynghrair y Cenhedloedd.
‘Dim byd yn newid’
“Does dim byd yn newid,” meddai Rob Page wrth ddweud y byddai’r garfan yn paratoi yn y modd arferol.
“Tîm Ryan yw e, carfan Ryan yw hi ac mae’n fater o orffen y gwaith ddechreuodd e.
“Mae gyda ni dair gêm anodd.
“Mae’r un gyntaf yn bwysig oherwydd rydyn ni am i’r momentwm barhau ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol ond hefyd, wrth gynllunio ar gyfer nos Iau, rhaid i ni gadw llygad ar y ddwy gêm ragbrofol wedyn.
“Fel y dywedais i, bydd yn wych cael bod yn rhan o’i phwysigrwydd o ran busnes ac o ran y chwaraewyr.”
Dim Aaron Ramsey – a’r gofid am ragor o anafiadau
Fydd Aaron Ramsey ddim ar gael oherwydd anaf i’w goes, ac fe fydd yn cael ei asesu ymhen deng niwrnod, ac mae Ben Cabango wedi tynnu’n ôl yn dilyn anaf i’w goes.
Ac mae Rob Page yn dweud ei fod yn gofidio am ragor o anafiadau cyn y gemau.
“Mae bob amser [yn bryder], o gofio’n ôl i’r dyddiau pan o’n i’n gyfrifol am y tîm dan 21 hefyd,” meddai.
“O ran pob un o’r bois yn y garfan sy’n chwarae pêl-droed tîm cyntaf, rydych chi’n dal eich anadl ac eisiau iddyn nhw ddod drwyddi’n iawn fel bod gyda chi garfan lawn.
“Dydy hi ddim yn wahanol pwy bynnag sydd yn eich criw, a dydy’r criw yma’n sicr ddim yn wahanol.
“Rydyn ni wedi cyfarfod â nhw a diolch byth, mae pawb arall wedi dod drwyddi’n iawn a dyna’r newyddion da.”