Collodd y Gleision o 18-0 yn y PRO14 ym Murrayfield neithiwr (nos Lun, Tachwedd 9), wrth i Gaeredin ennill am y tro cyntaf y tymor hwn.

Sgoriodd y prop Lee-Roy Atalifo a chiciodd Nathan Chamberlain gic gosb a dau drosiad.

Daeth cais Dave Cherry yn y niwl yn yr ail hanner i selio’r fuddugoliaeth, yr ail o’r bron i Gaeredin sydd yn y trydydd safle ac yn gyfartal â’r Gleision yn y tabl, gyda’r rhanbarth Gymreig yn ail ar wahaniaeth pwyntiau.