Mae Iain Henderson, blaenwr tîm rygbi Iwerddon, yn cyfaddef nad yw’n hoffi wynebu Alun Wyn Jones, ac ei ddisgrifio fel “llond llaw”.

Bydd yn ddau yn wynebu ei gilydd pan fydd Cymru’n teithio i Ddulyn ar gyfer gêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref nos Wener (Tachwedd 13).

Datblygodd y ddau berthynas agos wrth rannu ystafell ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.

Mae gan Henderson atgofion melys o’r profiad hwnnw, ac mae’n cyfaddef y byddai’n well ganddo fod yn chwarae ochr yn ochr ag Alun Wyn Jones nag yn ei erbyn.

“Dw i ddim yn hoffi chwarae yn ei erbyn ac mae’n debyg fod hynny yn un o’i ddoniau mwyaf,” meddai.

“Pan nad yw chwaraewyr yn hoffi chwarae yn erbyn chwaraewyr eraill, mae bron yn ganmoliaeth o’r math o chwaraewr wyt ti.

“Mae’n amlwg ei fod yn ychwanegu tipyn o wmff i’w carfan.”