Mae Rygbi’r Chwe Gwlad wedi canslo tair gêm olaf Pencampwriaeth y Merched eleni.
Fydd gemau’r Alban yn erbyn yr Eidal a Chymru ddim yn cael eu cynnal, tra bod gornest Ffrainc ac Iwerddon hefyd wedi cael ei chanslo yn sgil cymhlethdodau logisteg yn sgil pandemig y coronafeirws.
“Mae cyfyngiadau diweddar gan y Llywodraeth ac awdurdodau iechyd, sy’n effeithio ar baratoadau carfan, teithio, a’n gallu i gynnal gemau, wedi’i gwneud hi’n amhosibl cwblhau Pencampwriaeth 2020 yn llwyddiannus,” meddai datganiad.
Roedd Lloegr eisoes wedi ennill y Gamp Lawn yn dilyn eu buddugoliaeth o 54-0 dros yr Eidal ar Dachwedd 1, a bydd y tabl terfynol yn aros fel y mae, gyda Ffrainc yn ail a Chymru yn y safle isaf.
“Penderfyniad anodd”
“Roedd hwn yn benderfyniad anodd iawn a wnaed dim ond ar ôl i ni archwilio pob opsiwn posibl i sicrhau bod y gemau hyn yn cael eu chwarae,” meddai Ben Morel, prif weithredwr Rygbi’r Chwe Gwlad.
“Mae’n siomedig bod hyn yn dod ar adeg pan fo momentwm mor gadarnhaol o amgylch gêm y merched ac ynghylch Chwe Gwlad y Merched yn arbennig.
“Byddwn yn awr, gyda’n hundebau, yn rhoi ein ffocws a’n hegni tuag at Bencampwriaeth 2021.”
Ar ben hyn, mae Rygbi’r Byd a Rygbi Ewrop wedi gohirio twrnament cymhwyso Ewropeaidd Cwpan y Byd 2021 a oedd fod i gael ei gynnal ar Ragfyr 5, 12 a 19.
Bydd yn cael ei ail-drefnu ar gyfer dechrau’r flwyddyn nesaf.