Mae tîm rygbi Iwerddon wedi gwneud saith newid i’r tîm i herio Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref nos Wener (Tachwedd 13).

Yn eu plith mae James Lowe, asgellwr 28 oed sy’n enedigol o Seland Newydd fydd yn ennill ei gap cyntaf.

Mae e wedi beirniadu’r rheolau cymhwyso yn y gorffennol, gan ddweud eu bod nhw’n “dwp” ac yn “rhyfedd”.

Mae’n gymwys ar ôl treulio tair blynedd yn chwarae i ranbarth Leinster, ac roedd e’n aelod o’r garfan ar gyfer y gemau yn erbyn yr Eidal a Ffrainc ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad fis diwethaf.

Hefyd yn ennill eu capiau cyntaf mae’r mewnwr Jamison Gibson-Park, sydd hefyd yn enedigol o Seland Newydd, a’r bachwr Ronan Kelleher.

Mae’r clo Iain Henderson yn dychwelyd ar ôl gwaharddiad.

Mae’r cefnwr Jacob Stockdale wedi cadw ei le ar ôl perfformiad siomedig yn erbyn Ffrainc, tra bod Peter O’Mahony a Josh Van Der Flier yn dychwelyd i’r rheng ôl.

Mae’r canolwr Chris Farrell hefyd wedi’i gynnwys am y tro cyntaf ers y golled annisgwyl yn erbyn Japan yng Nghwpan y Byd y llynedd.

Gallai’r maswr Billy Burns ennill ei gap cyntaf o’r fainc.