Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llongyfarch un o’u gweithwyr ar ddod yn bencampwr y byd dartiau gyda thîm Cymru.

Fe wnaeth Jonny Clayton o Bontyberem gipio teitl y byd gyda’i bartner Gerwyn Price nos Sul (Tachwedd 8) wrth gynrychioli Cymru yn Salzburg, wrth iddyn nhw guro Lloegr o 3-0 yn y rownd derfynol.

Dyma’r tro cyntaf erioed i Gymru ennill y gystadleuaeth.

I ffwrdd o’r byd dartiau, mae Jonny Clayton yn plastro tai newydd a rhai sy’n cael eu hadnewyddu gan y Cyngor Sir.

‘Anrhydedd i’r Cyngor’

Dywed Emlyn Dole, arweinydd y Cyngor, fod cael pencampwr byd ymysg ei weithwyr yn anrhydedd iddyn nhw.

“Rydym ni’n hynod falch o Jonny a phopeth mae wedi’i gyflawni,” meddai.

“Mae e wedi gwneud rhywbeth anhygoel – dyn diymhongar o Bontyberem yn ennill Cwpan y Byd i’w wlad mewn camp y mae’n dwlu arni.

“Mae Jonny yn aelod pwysig o dîm Cyngor Sir Caerfyrddin, ac yn ogystal â rhagori mewn dartiau, mae’n blastrwr heb ei ail hefyd.

“Fel yn achos unrhyw aelod o staff sy’n cynrychioli ei wlad mewn chwaraeon elît, rydym ni wedi rhoi ein cefnogaeth lawn i Jonny i sicrhau ei fod yn gallu gwneud ei waith dyddiol a chael amser i ymarfer a chystadlu.

“Byddwn ni’n ymfalchïo wrth ei groesawu gartre i Sir Gaerfyrddin – ac, o nabod Jonny, bydd e nôl yn y gwaith cyn pen dim gyda’i drywel yn ei law yn lle dartiau!”

Siaradodd y tad i ddau, a gafodd y llysenw ‘Ferret’ yn ystod ei ddyddiau’n chwarae fel mewnwri Glwb Rygbi Pontyberem, â’r cyfryngau ar ôl ei fuddugoliaeth a dweud mai fe yw’r “dyn mwyaf balch ar y blaned”.