Un newid i dîm Cymru i wynebu Iwerddon

Gallai’r maswr Callum Sheedy ennill ei gap cyntaf o’r fainc

WRU

Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi gwneud un newid i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Iwerddon yn Nulyn nos Wener, Tachwedd 13.

Mae Justin Tipuric yn dechrau ar ôl gorfod tynnu allan o’r gêm ddiwethaf yn erbyn yr Alban oherwydd salwch.

Yn y cyfamser mae chwech newid i’r fainc.

Yn eu plith mae George North, sydd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael ei adael allan yn llwyr bythefnos yn ôl, gallai’r asgellwr ennill ei ganfed cap a hynny ddeg mlynedd i’r diwrnod ers ei ymddangosiad cyntaf yng nghrys coch Cymru.

Gallai’r maswr Callum Sheedy ennill ei gap cyntaf o’r fainc.

Er bod Samson Lee yn dychwelyd i’r fainc ar ôl anafu yn erbyn Ffrainc does dal dim son am Josh Navidi a Ross Moriarty.

Mae Shane Lewis-Hughes yn cadw ei le ar ôl ennill ei gap cyntaf yn erbyn yr Albanwyr.

Bydd capten, Alun Wyn Jones, yn ennill cap rhif 150.

Ar drothwy Cwpan Cenhedloedd yr Hydref bydd tîm Cymru dan bwysau ychwanegol ar ôl colli pum gêm yn olynol.

Ond ar ôl ildio 15 o geisiau yn y pum gêm ddiwethaf bydd Cymru hefyd heb eu hyfforddwr amddiffyn.

Gadawodd Byron Hayward ei rôl gyda thîm rygbi Cymru y penwythnos diwethaf.

Tîm Cymru

Olwyr: Leigh Halfpenny, Liam Williams, Jonathan Davies, Owen Watkin, Josh Adams, Dan Biggar, Gareth Davies

Blaenwyr: Rhys Carre, Ryan Elias, Tomas Francis, Will Rowlands, Alun Wyn Jones (C), Shane Lewis-Hughes, Justin Tipuric, Taulupe Faletau,

Eilyddion: Elliot Dee, Wyn Jones, Samson Lee, Jake Ball, Aaron Wainwright, Lloyd Williams, Callum Sheedy*, George North

*Cap cyntaf

Tîm Iwerddon

Mae Iwerddon wedi gwneud saith newid i’r tîm i herio Cymru.

Yn eu plith mae James Lowe, asgellwr 28 oed sy’n enedigol o Seland Newydd fydd yn ennill ei gap cyntaf.

Olwyr: Jacob Stockdale, Hugo Keenan, Chris Farrell, Robbie Henshaw, James Lowe*, Jonathan Sexton (C), Jamison Gibson Park

Blaenwyr: Cian Healy, Ronan Kelleher, Andrew Porter, Iain Henderson, James Ryan, Peter O’Mahony, Josh van der Flier, Caelan Doris

Eilyddion: Dave Heffernan, Ed Byrne, Finlay Bealham, Quinn Roux, Will Connors, Conor Murray, Billy Burns*, Keith Earls

*Cap cyntaf

Darllen mwy:

← Stori flaenorol

Ryan Giggs

Bydd Ryan Giggs ar ben arall y ffôn, medd Robert Page

A Chris Gunter yn gapten wrth ennill ei 98fed cap

Stori nesaf →

Jonny Clayton

Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch plastrwr a ddaeth yn bencampwr y byd

Mae Jonny Clayton, sydd newydd ennill Cwpan y Byd gyda Gerwyn Price wrth gynrychioli Cymru, yn gweithio i’r cyngor fel plastrwr

Hefyd →

Canfod ffatri ganabis ar stryd lle cafodd landlord ei lofruddio

Dywed Heddlu’r De nad oes cysylltiad rhwng yr ymchwiliad a’r digwyddiad yn y gorffennol