Mae Robert Page, rheolwr dros dro tîm pêl-droed Cymru, yn dweud y bydd Ryan Giggs ar ben arall y ffôn wrth i’r garfan baratoi i herio’r Unol Daleithiau yn Stadiwm Liberty yn Abertawe nos yfory (nos Iau, Tachwedd 12).

Mae Giggs wedi camu o’r neilltu ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad a’i ryddhau ar fechnïaeth ym Manceinion Fwyaf.

Fydd e ddim ar gael ar gyfer yr un o’r tair gêm sydd i ddod, wrth i Gymru hefyd herio Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Mae’n gwadu’r cyhuddiadau yn ei erbyn.

Ryan Giggs wedi cymryd rhan mewn trafodaethau

Tra bydd Robert Page a gweddill y tîm hyfforddi’n gyfrifol am y tîm ar y noson, mae’n dweud bod Giggs wedi cymryd rhan yn y trafodaethau wrth ddewis y tîm a pharatoi’r tactegau.

“O ran y garfan, does dim byd yn newid,” meddai.

“Rydyn ni mewn lle mor dda ar hyn o bryd o ran dod i mewn i’r ddwy gêm ragbrofol [yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir].

“Felly os nad yw e wedi torri, does dim pwrpas ei drwsio.

“Mae momentwm yn dod i mewn i’r garfan ac mae’n bwysig yn erbyn yr Unol Daleithiau ein bod ni’n cadw’r momentwm hwnnw.

“Bydd hynny’n ein rhoi ni mewn lle da ar gyfer y ddwy gêm ragbrofol.

“Rydyn ni’n gwybod fod yna wobrau ar gael ar y diwedd.

“Yr hyn dw i’n ei olygu yw mai carfan Ryan yw hon o hyd, ac rydyn ni’n goruchwylio pethau gorau gallwn ni o fewn y garfan.”

Hyder yn y tîm hyfforddi

Mae Robert Page yn dweud ei fod e’n ddigon hyderus bod yna ddigon o brofiad ymhlith y tîm hyfforddi i ymdopi ag absenoldeb Ryan Giggs.

“Rhwng yr holl staff, fe gawn ni i gyd ddweud ein dweud,” meddai.

“Wrth gwrs, dw i’n gwybod y bydd e ar ben arall y lein os oes angen sgwrs arna i neu os oes angen trafod unrhyw beth pwysig o fewn y garfan.

“Mae gyda ni Albert [Stuivenberg] wrth fy ochr hefyd, ac mae gyda ni’r un staff ag a fu gyda ni drwy gydol yr ymgyrch, felly mae wedi bod yn dda hyd yn hyn.”

Deinameg y tîm hyfforddi

Mae Robert Page hefyd wedi egluro sut fydd y tîm hyfforddi yn cydweithio ar noson y gêm, gan bwysleisio mai fe fydd yn gyfrifol ar ymyl y cae.

Mae’r tîm yn ddi-guro mewn naw gêm gystadleuol ac ar frig eu tabl yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

“Bydd gan Ryan fynediad i’r gemau hyn, wrth gwrs, fel unrhyw un ohonon ni,” meddai.

“Ond dw i’n credu ei bod hi’n bwysig, tra ein bod ni yno ar gyfer y gêm, ein bod ni’n cael canolbwyntio ar y gêm.

“Mae digon o brofiad gan y staff hyfforddi i ymdopi yn y tair gêm hyn.

“Os oes angen mewnbwn arnon ni, neu sgwrs am rywbeth y bydd e’n gwybod amdano, yna bydd e ar ben arall y ffôn.

“Fe gawn ni sgyrsiau cyn y gêm a cheisio darogan sut fydd pethau’n mynd.

“Mae’n gêm dda i ni, yr Unol Daleithiau, i gadw’r momentwm i fynd.

“Ond mae angen i ni gadw llygad ar y gêm ddydd Sul yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r gêm ganlynol yn erbyn y Ffindir.

“Bydd cynllun yn ei le, a gobeithio y bydd pethau’n mynd yn ôl y cynllun hwnnw.”

Llwyddiant y garfan am barhau

O safbwynt yr awyrgylch yn y garfan, dywed Robert Page nad oes angen newid dim.

“Byth ers i fi fod yn rhan o’r tîm cyntaf, mae’r awyrgylch sydd wedi’i greu gan Ryan a’r staff hyfforddi wedi creu argraff arna’i,” meddai.

“Does dim angen newid dim.

“Dydy hi ddim yn gyd-ddigwyddiad mai gwaith caled y blynyddoedd diwethaf sy’n gyfrifol am y llwyddiant gawson ni dros y misoedd diwethaf wrth roi ein hunain mewn sefyllfa dda.

“Mae’r bois wedi bod yn rhagorol, mae eu hagwedd wedi bod heb ei ail.

“Rydyn ni wedi cael dwy sesiwn wych ar y glaswellt, ac alla i ddim cwestiynu eu hagwedd na’u hymroddiad i’r achos.”

Cadarnhaodd e hefyd y Bydd Chris Gunter, cefnwr de Charlton, a fydd yn ennill cap rhif 98, yn gapten yn erbyn yr Unol Daleithiau yn Abertawe.