Mae Chris Gunter yn dweud mai arwain ei wlad yw’r “anrhydedd fwyaf” wrth i dîm pêl-droed Cymru herio’r Unol Daleithiau yn Stadiwm Liberty heno (nos Iau, Tachwedd 12).
Bydd y cefnwr de yn ennill cap rhif 98 ei yrfa wrth ddechrau yn yr amddiffyn, ac fe fydd yn ennill ei ganfed cap pe bai’n chwarae yn y gemau yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon a’r Ffindir.
Ond cap rhif 98 yn unig sydd ar feddwl y capten ar hyn o bryd.
“Byddai [canfed cap] yn ych, ond does dim ffordd allwch chi fynd i mewn i gêm yn erbyn tîm da iawn nos Iau yn meddwl am unrhyw beth ond am eich perfformiad,” meddai.
“Dw i’n falch iawn [o gael bod yn gapten].
“Dyna’r anrhydedd fwyaf allwch chi ei chael, i chwarae dros eich gwlad a bod yn gapten.
“Dw i jyst mor falch, dw i’n edrych ymlaen ond y peth pwysicaf yw sicrhau eich bod yn perfformio’n dda, yn cyfrannu i’r tîm a chael y canlyniad rydyn ni i gyd ei eisiau yn y pen draw.”
Absenoldeb Ryan Giggs
Yn ôl Chris Gunter, does dim byd wedi newid gyda Robert Page wrth y llyw yn absenoldeb Ryan Giggs, sydd wedi camu o’r neilltu ar ôl cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad a’i ryddhau ar fechnïaeth.
“Mae gyda ni drefn dda iawn yma o ran trefn yr ymarferion,” meddai.
“Mae hynny wedi bod yn union yr un fath ag arfer, felly mae pethau felly wedi bod yn gwbl normal.
“Dw i’n meddwl bod Pagey, ers iddo fe ymuno â’r garfan, wedi creu argraff fawr ar lawer o bobol.
“Mae gan yr holl chwaraewyr yn y garfan barch mawr tuag ato fe ac mae e wedi bod yn wych yr wythnos hon yn nermau’r neges mae e wedi bod yn ei chyflwyno.
“Mae gyda ni dair gêm bwysig, ac mae’n rhaid i ni sicrhau pan fydd y chwiban yn cael ei chwythu ar ddechrau’r gêm gyntaf honno, ein bod ni’n gwbl barod ar ei chyfer hi.”
Mae Robert Page wedi cadarnhau y bydd Ryan Giggs ar ben arall y ffôn ar gyfer y gêm.
Osgoi temtasiwn
Prin fu cyfleoedd Chris Gunter yn y tîm cyntaf dros y blynyddoedd wrth i Connor Roberts dorri trwodd, ac mae Neco Williams yn dechrau cael mwy o gyfleoedd erbyn hyn hefyd.
Mae hynny’n golygu bod Gunter yn gapten ar adeg pan na fu’n sicr o’i le yn nhîm Cymru, na chwaith yn nhîm Reading cyn ymuno â Charlton.
Serch hynny, mae’n dweud – â’i dafod yn ei foch – nad oedd yn demtasiwn i roi cic fach i Roberts neu Williams yn ystod yr ymarferion.
“Dw i ddim yn meddwl y byddai Pagey yn rhy hapus gyda fi am hynny!” meddai.
“Ers cyn cof, roedd gyda ni chwaraewyr yn ymuno â’r garfan dros y blynyddoedd diwethaf.
“Dydy’r ddau yna ddim yn wahanol i nifer o rai eraill ond yn eithaf cyflym ar ôl ymuno â’r garfan, maen nhw wedi creu gwir argraff i’r fath raddau nes ei bod hi’n anodd cofio’r adeg pan nad oedden nhw yn y tîm.
“Dyna’r ffordd mae pêl-droed.
“Mae’n siŵr bod yna lawer iawn mwy o chwaraewyr yn aros i dorri trwodd. Mae’n wych gweld hynny.
“Rydyn ni wedi creu amgylchfyd da o amgylch y garfan.”
‘Dw i’n falch dros Gunts’
Mae Robert Page yn dweud ei fod e’n “falch dros Gunts” ar ôl iddo gael ei enwi’n gapten ac ar drothwy’r garreg filltir.
“Fe wnes i siarad yn gynharach am y bois hŷn sydd gyda ni yn y garfan,” meddai.
“Mae [Gareth] Bale yn un ohonyn nhw. Mae Gunter yn sicr yn un ohonyn nhw.
“Mae yna chwaraewyr hŷn proffesiynol da yn yr ystafell newid.
“Fel hyfforddwr a rheolwr, fel rheolwr cynorthwyol, mae angen chwaraewyr o’r fath arnoch chi i yrru’ch safonau.
“Maen nhw’n sicr wedi gwneud hynny yr wythnos hon.
“Dw i’n falch dros Gunts.”