Mae cyfreithiwr blaenllaw o Awstralia sy’n arbenigo mewn hawliau dynol rhyngwladol, wedi dweud wrth Bwyllgor Materion Cartref Tŷ’r Cyffredin nad yw polisi lloches tebyg i un Awstralia yn gweithio.

Dywedodd Madeline Gleeson wrth y pwyllgor o Aelodau Seneddol ei bod yn peri pryder mawr fod Prydain hyd yn oed yn ystyried polisi cyffelyb.

“Mae’n bryder y byddai unrhyw wlad yn ystyried ceisio efelychu’r hyn y mae Awstralia wedi’i wneud.

“Nid oedd yn effeithiol yno, ac yn sicr dylai unrhyw wladwriaeth sy’n arwyddo cytundebau rhyngwladol ystyried y pryderon cyfreithiol a dyngarol, ond yn fwy na hynny, unrhyw wladwriaeth sy’n ystyried ei hun yn gymdeithas ddemocrataidd sydd yn seiliedig ar barch.

“Y prif bwynt yw nad oedd y system yn atal i geisiwr lloches rhag cyrraedd Awstralia ar gychod.”

Ynys trwyddedu 4,000 o filltioedd o’r DU

Fis diwethaf, roedd adroddiadau fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystyried polisïau lloches tebyg i’r rhai a ddefnyddiwyd yn Awstralia.

Roedd hyn yn cynnwys anfon ceiswyr lloches i ynys trwyddedu a throi llongau nad oedd yn cael eu defnyddio yn ganolfannau prosesu.

Awgrymwyd hefyd y byddai arglawdd yn cael ei adeiladu ar y sianel rhwng Lloegr a Ffrainc.

Cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Tramor Dominic Raab yn ddiweddarach fod trefniadau i ddefnyddio ynys yn y Môr Iwerydd, tua 4,000 o filltiroedd o’r Deyrnas Unedig, yn cael eu hystyried.

Mae Llywodraeth Prydain wedi dweud bod cynlluniau’n cael eu datblygu i ddiwygio polisïau a chyfreithiau mewnfudo a lloches er mwyn diogelu ac atal camddefnyddio’r system, ac y byddai’r Deyrnas Unedig yn parhau i ddarparu llwybrau diogel a chyfreithiol yn y dyfodol.