Mae yna gwestiynau difrifol ynghylch faint yn hirach, a faint yn rhagor, y bydd yr argyfwng covid yn taflu cysgod dros wasanaeth rheilffyrdd Cymru.
Dyna gyfaddefodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, gerbron Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau heddiw (11 Tachwedd).
Fis diwetha’ mi ddatgelodd Llywodraeth Cymru y bydden nhw’n camu i mewn i reoli’r rheilffyrdd yng Nghymru, gan gymryd yr awenau oddi wrth Keolis Amey, y gweithredwr preifat.
Daw hyn yn dilyn “cwymp dramatig” mewn niferoedd teithwyr, ac wrth siarad â’r pwyllgor heddiw rhodd Lee Waters mwy o gefndir i’r cam, cyn rhannu ei farn onest am y dyfodol.
“Ar un adeg roedd 95% o deithwyr yn cadw draw rhag gwasanaethau, ac yn amlwg wnaeth yr elfen yna o’r model busnes gwympo i ffwrdd, ac felly wnaeth y model busnes chwalu,” meddai.
“Gan mai ni sy’n gyfrifol os nad oes opsiwn arall (yr operators of last resort), roedd gennym yr opsiwn o gamu i mewn a gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth yno i gymudwyr a theithwyr.
“Neu, roedd gennym yr opsiwn o ddweud mai argyfwng yw hyn, mae’r model wedi’i dryllio, a chaiff y gwasanaethau grebachu.
“Dyna yw’r drafodaeth sy’n mynd rhagddi rhyngom ni a’n cydweithwyr Trysorlys yn Llywodraeth Cymru.”
Cwestiynau anodd
Aeth ati egluro bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dewis model gwahanol, sef ad-dalu colledion y gweithredwyr sector breifat dros yr 18 mis nesa’.
“Mi wnaethom ni benderfyniad gwahanol ar sail ein gwerthoedd ac uchelgeisiau, i ddod â hyn dan reolaeth gyhoeddus trwy Drafnidiaeth Cymru,” meddai.
“Mae’n mynd i’r afael â’r mater o fforddiadwyedd, ond y cwestiwn go iawn i ni gyd dw i’n credu yw: ‘Faint, ac am ba hyd, y bydd y pandemig yma yn cael effaith ar niferoedd teithwyr?’
“Yn y cyfamser, faint o awydd sydd gan y sector gyhoeddus i ymyrryd ac ariannu parhad gwasanaethau i wneud yn siŵr bod yna fudd cyhoeddus?
“Mae hynny’n gwestiwn byw, ac mae’n anodd dod i’r farn gywir.”