Rhaid i Lywodraeth San Steffan “fwrw ati ar frys” i ddiogelu busnesau’r sectorau croeso a digwyddiadau trwy’r gaeaf.

Dyna mae Ben Lake Aelod Seneddol Ceredigion, wedi ei ddweud yn sgil ei gyfraniad yn Nhŷ’r Cyffredin brynhawn heddiw.

Yn ystod y sesiwn cwestiynau i’r Prif Weinidog, mi dynnodd sylw at yr “ergyd drom” mae’r sectorau croeso a digwyddiadau wedi’u profi yng nghanol yr argyfwng.

Dywedodd bod y busnesau yma yn methu a dibynnu ar y pecynnau cymorth sydd eisoes ar gael, a galwodd am “becyn sy’n rhoi’r gobaith y gwnaiff y busnesau yma brofi’r haf”.

“Rhaid i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig a’r Canghellor fwrw ati ar frys i gyflwyno pecyn i helpu’r busnesau yma trwy’r gaeaf,” meddai’r AS Plaid Cymru wedi’r sesiwn.

“Os na wnawn nhw hynny bydd diweithdra yn cynyddu, y gadwyn gyflenwi yn gwanhau, a fydd dim cyflenwyr i’r diwydiannau croeso a digwyddiadau pan fydd y sector gwasanaethau yn ôl ar ei thraed.”

Arian o Ewrop

Yn gynt yn y sesiwn wnaeth Jonathan Edwards, AS Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, dynnu sylw at y ffaith bod cyllid Ewropeaidd i Gymru yn prysur ddirwyn i ben.

Holodd sut y byddai Llywodraeth San Steffan yn camu i’r adwy er mwyn sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled wedi Brexit.

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn parhau i gefnogi pob rhan o’r Deyrnas Unedig,” meddai Boris Johnson wrth yr AS sydd wedi ei wahardd o’r Blaid am 12 mis.

“Ac yn awr mae gennym gyfle, fel y mae’r aelod yn ei wybod, i ariannu prosiectau â’n harian ein hunain, yn hytrach na thynnu ar gyllid trwy Frwsel.”