Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi rhoi croeso gofalus i’r newyddion y gallai brechlyn y coronafeirws fod yn barod eleni, ond rhybuddiodd “mai dyddiau cynnar iawn yw’r rhain”.

Dywedodd Dr Frank Atherton y gallai fod yn nes at ddiwedd y flwyddyn nesaf cyn y bydd y brechlyn ar gael i’r holl boblogaeth a fod angen i bobol barhau i “gadw’n ddiogel”.

Galwodd ar bobol i gadw at ganllawiau’r Llywodraeth wrth gadw pellter cymdeithasol, cyfyngu ar ymgynnull dan do, gwisgo gorchuddion wyneb lle y bo’n briodol a chynnal arferion hylendid.

“Mae gennym gynlluniau datblygedig i gyflwyno unrhyw frechlyn sydd wedi’i gymeradwyo i grwpiau blaenoriaeth yng Nghymru, ond yn y cyfamser, mae angen i bob un ohonom barhau i wneud popeth posibl i atal y coronafeirws rhag lledaenu,” meddai.

“Mae angen i bawb barhau i gadw’n ddiogel a diogelu eich hun ac eraill.”

Cydweithio rhwng llywodraethau

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig eraill i baratoi ar gyfer y brechlynnau sy’n cael eu datblygu.

Dywedodd Dr Frank Atherton: “Mae’r gwaith cynllunio ar gyfer brechlyn COVID-19 posibl yng Nghymru yn mynd rhagddo’n dda. Mae hynny’n cynnwys trefnu’r logisteg ar gyfer cludo’r brechlyn, chwilio am leoliadau addas ar gyfer rhoi’r brechlynnau, a sicrhau bod gweithwyr iechyd proffesiynol ar gael, ac wedi’u hyfforddi i roi’r brechlyn.

“Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a phreswylwyr a staff cartrefi gofal sydd wedi cael blaenoriaeth i dderbyn y brechlyn gyntaf, ac yna bydd yn cael ei gyflwyno i bobl hŷn o wahanol grwpiau oedran o’r flwyddyn nesaf ymlaen.

“Ond mae’n debygol o fod yn amser hir tan fydd y boblogaeth gyfan yn gallu cael ei brechu, felly tan hynny, dylai pob un ohonom wneud popeth posibl i atal y feirws rhag lledaenu.”

Ffigurau diweddaraf

Cofnodwyd 928 yn rhagor o achosion wedi’u cadarnhau o’r coronafeirws yng Nghymru, gan ddod â chyfanswm yr achosion a gadarnhawyd i 62,284.

Adroddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru 45 yn rhagor o farwolaethau, gan ddod â’r cyfanswm yng Nghymru ers dechrau’r pandemig i 2,108.