Gallai brechlyn coronafeirws fod ar gael i bobol fregus yng Nghymru erbyn y Nadolig pe bai’n pasio profion diogelwch mewn da bryd, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywed llefarydd fod y gwaith o gyflwyno’r brechlyn “yn mynd rhagddo”.

Mae hyn yn cynnwys cludo’r brechlyn, dod o hyd i leoliadau addas i frechu pobol a sicrhau bod y staff priodol ar gael.

Yn ôl y llefarydd, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, a staff a phreswyliaid cartrefi gofal fydd yn cael y flaenoriaeth gan fod adnoddau’n brin ar hyn o bryd.

Bydd pobol oedrannus yn cael cynnig y brechlyn yn gynnar y flwyddyn nesaf.