Mae’r cyflwynydd radio Huw Stephens wedi dweud wrth golwg360 ei fod wedi “mwynhau pob eiliad” o 21 mlynedd “amrywiol, diddorol, a hwyliog” gyda Radio 1.

Bydd y DJ a chyflwynydd o Gaerdydd yn gadael Radio 1 ddiwedd y flwyddyn ar ôl gweithio gyda’r orsaf ers 1999.

Bryd hynny, roedd yn cyflwyno ar y cyd gyda Bethan Elfyn, a fe oedd cyflwynydd ieuengaf erioed yr orsaf.

Ar ôl chwe blynedd, ymunodd â rhaglen OneMusic yr orsaf ac yn ddiweddarach Weekend afternoons a BBC Music Introducing.

“Dw i wedi cael 21 mlynedd amrywiol, diddorol a hwyliog dros ben ac wedi mwynhau pob munud,” meddai Huw Stephens wrth golwg360.

“Y prif beth yw fy mod wedi cael cyfle i gefnogi cerddoriaeth newydd ar Radio 1 ac wedi gallu defnyddio’r platfform i wthio artistiaid newydd.

“Dw i wedi cael platfform i chwarae beth bynnag yr ydw i eisiau i gynulleidfa enfawr a dw i wastad yn trio chwarae stwff diddorol.

“Dw i wedi ei gymryd yn ddifrifol iawn. Dw i wastad wedi meddwl bod yn rhaid ei gymryd yn ddifrifol iawn.”

Prosiectau newydd                                                                                             

Er bod cyfnod Huw Stephens gyda Radio 1 yn dod i ben, mae ganddo amryw o brosiectau ar y gweill.

Bydd yn cyflwyno cyfres deledu newydd, The Story of Welsh Art, ar BBC 4 y flwyddyn nesaf, gan edrych ar “hanes celf weledol Cymru”.

“Mae wedi bod yn lot o hwyl i weithio arno,” meddai.

A fe sy’n rhedeg Gwobr Gerddoriaeth Gymreig, sydd wedi cynyddu ei rhestr fer i 15 albwm eleni er mwyn nodi 10 mlynedd ers y gwobrau cyntaf.

Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ddydd Iau nesaf (Tachwedd 19).

“Radio a cherddoriaeth yn dal i fod yn rhan fawr o’m mywyd i”

Ond bydd Huw Stephens yn parhau i weithio i’r BBC ac yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a 6 Music.

“Dw i’n edrych ymlaen at gario ’mlaen i gefnogi bandiau Cymru a chario ’mlaen i gyflwyno,” meddai.

“Mae’r radio a cherddoriaeth yn dal i fod yn rhan fawr o’m mywyd i.”

“Balch iawn dros Sian Eleri”

Bydd Phil Taggart a Devin Griffin hefyd yn gadael yr orsaf ddiwedd y flwyddyn gan wneud lle i bum cyflwynydd newydd.

Yn eu plith mae Sian Eleri o Gaernarfon, sydd ar hyn o bryd yn gweithio i BBC Radio Cymru.

“Dwi mor hapus i fod yn ymuno â thîm Radio 1,” meddai Sian Eleri ar ôl cael ei phenodi.

“Alla i ddim aros i ddod â rhai o’r recordiau chill i chi bob nos Sul.”

“Dw i’n falch iawn dros Sian Eleri ei bod hi’n cael cyfle gyflwyno rhaglen ar Radio 1,” meddai Huw Stephens.

“Mae’n beth gwych bod yna Gymraes sy’n caru ei cherddoriaeth ar yr orsaf.”