Mae’r BBC wedi cyhoeddi bydd Huw Stephens yn gadael Radio 1 ddiwedd y flwyddyn.
Mae’r DJ o Gaerdydd wedi bod yn gweithio gyda’r orsaf radio ers 1999.
Bryd hynny roedd yn cyflwyno ar y cyd gyda Bethan Elfyn, ac ef oedd cyflwynydd ieuengaf erioed yr orsaf.
Ar ôl chwe blynedd, ymunodd â rhaglen OneMusic yr orsaf ac yn ddiweddarach Weekend afternoons a BBC Music Introducing.
‘Diolch am fod yn rhan o’ch stori’
“Diolch i Radio 1 am adael i mi fod yn rhan o’ch stori”, meddai Huw Stephens.
“Diolch am adael i mi chwarae cerddoriaeth newydd a chyflwyno artistiaid newydd i gynulleidfa hyfryd.
“Dw i bob amser wedi ceisio rhoi’r parch y mae’n ei haeddu i gerddoriaeth, ac rwyf wedi caru pob munud o’m 21 mlynedd yn darlledu ar Radio 1.”
Bydd yn parhau i weithio i’r BBC ac yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru, BBC Radio Cymru 2 a 6 Music.
Gwneud lle i gyflwynwyr newydd
Bydd Phil Taggart a Devin Griffin hefyd yn gadael yr orsaf ddiwedd y flwyddyn gan wneud lle i bum cyflwynydd newydd.
Yn eu plith mae Sian Eleri, o Gaernarfon, sydd ar hyn o bryd yn gweithio i BBC Radio Cymru.
“Dwi mor hapus i fod yn ymuno â thîm Radio 1!
“Cefais yr amser gorau ym mywyd yn gweithio ar y Chillest Show y Nadolig diwethaf, felly mae cael y cyfle i ddod yn ôl a dod yn rhan o’r teulu yn golygu popeth i mi.
“Alla i ddim aros i ddod â rhai o’r recordiau chill i chi bob nos Sul.”
Ychwanegodd Aled Haydn Jones, Pennaeth BBC Radio 1, fod Huw Stephens, Phil Taggart and Devin Griffin wedi bod yn aelodau gwerthfawr o deulu Radio 1.
“Maent i gyd yn ddarlledwyr ardderchog ac rwy’n falch y byddwn yn clywed mwy gan Huw a Phil mewn mannau eraill ar radio’r BBC,” meddai.
“Hoffwn ddiolch i bob un ohonynt am eu cyfraniad i Radio 1 a dymuno’r gorau iddynt ar gyfer y dyfodol.”