Mae cwmni darlledu Avanti wedi cyhoeddi y bydd cystadleuaeth Cân i Gymru yn cael ei chynnal yn 2021.
Cafodd y gystadleuaeth ei lansio neithiwr (nos Wener, Tachwedd 6), ar raglen Heno.
Mae cystadleuaeth Cân i Gymru wedi ei chynnal ers 1969 ac mae’n gyfle i gyfansoddwyr gynnig caneuon gwreiddiol am gyfle i ennill gwobr ariannol.
Fel rhan o’r adloniant, bydd Gruffydd Wyn, enillydd Cân i Gymru 2020, yn ymuno ag Elin Fflur i drafod ei brofiad o ennill y gystadleuaeth.
Enillodd ‘Cyn i’r Llenni Gau’ gan Gruffydd Wyn y gystadleuaeth drwy bleidlais gyhoeddus fyw gan wylwyr rhaglen Cân i Gymru 2020 ar S4C ym mis Chwefror yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Fe gafodd y canwr o Amlwch £5,000 yn wobr.
‘Caneuon arbennig ac unigryw’
Mae Siôn Llwyd, o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C yn sicr y bydd 2020 yn ysbrydoli cantorion a chyfansoddwyr Cymru i gyfansoddi caneuon arbennig ac unigryw.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd i’r celfyddydau, yn enwedig i gerddorion a chyfansoddwyr, ac rydym yn gobeithio bydd y llwyfan arbennig yma a’r cyfle am wobr ariannol yn rhoi hwb a ffocws i gyfansoddwyr a cherddorion ar gyfer y dyfodol,” meddai.
10 o’r gloch y nos ar Ionawr 3 yw’r dyddiad cau ar gyfer Cân i Gymru 2021.