Mae enwau’r rhai fydd yn cymryd rhan yn y gyfres deledu I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! wedi cael eu cyhoeddi.

Fe fydd y gyfres yn cael ei ffilmio yng Nghastell Gwyrch ger Abergele eleni yn hytrach nag Awstralia oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan mae’r athletwr Syr Mo Farah, DJ BBC Radio 1 Jordan North, y ddarlledwraig Victoria Derbyshire, y cyflwynydd teledu Vernon Kay, yr awdur Giovanna Fletcher, yr actores Coronation Street Beverley Callard, cyn-ddawnsiwr Strictly Come Dancing AJ Pritchard, yr athletwraig Hollie Arnold, yr actores EastEnders Jessica Plummer, a’r canwr, actor a chyflwynydd Shane Richie.

Fe fydd I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here! yn dechrau ar Dachwedd 15 ar ITV.