Mae Hedydd Ioan, 17 oed, o Benygroes, wedi ennill gwobr Gwneuthurwr Ffilm Ifanc y flwyddyn yng Ngwobrau’r Cinemagic 2020 Young Filmmaker yn Belfast.

Mae’r ffilm fer “Y Flwyddyn Goll’ yn amlygu’r heriau oedd yn wynebu pobl ifanc wrth gyfathrebu a chynnal perthynas ystod y cyfnod clo.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei chynnal yn rhithiol ac roedd yn gyfle i ddathlu talentau pobl ifanc ym myd y ffilmiau.

“Surreal ond yn wych!”

“Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o’ gwbl,” meddai Hedydd Ioan, wrth drafod ei lwyddiant, “roedd o’n eithaf surreal ond yn wych!”

“Roedd o’n neis cael clywed rhywun yn ymateb i’r ffilm, rhywun sydd yn hollol newydd i’r ffilm a ddim yn nabod fi,” meddai.

“Roedd o’n anhygoel o ddiddorol, hefyd, i weld y ffilmiau eraill a chael y cyfle i ddod i nabod pobl ifanc sydd hefyd hefo diddordeb mewn ffilm ar draws y byd.”

Eglurodd bod ei gynhyrchiad wedi derbyn cydnabyddiaeth ryngwladol hefyd, a’i bod wedi ei dewis ar gyfer gwyliau ffilm yn Llundain, Toronto a New Mexico.

 “Y Flwyddyn Goll”

“Nes i benderfynu creu ffilm fer hefo naratif iddi yn edrych ar unigrwydd o ran y ffordd mae pobl ifanc yn cysylltu,” eglurodd Hedydd.

“Mae’r ffilm am hogyn ifanc a monolog ydi o ar ffurf tecst. Mae o’n edrych ar y teimladau yng nghanol y lockdown pan doedden ni ddim yn gallu cysylltu hefo’n gilydd in-person.”

Eglurodd bod y ffilm fer hefyd yn gynrychiolaeth ehangach o’r modd mae pobl ifanc yn cyfathrebu a’i gilydd:

“O ran pobl ifanc, hyd yn oed pan dydyn ni ddim mewn lockdown – ma’ lot o sut yda ni’n cyfathrebu dyddiau ’ma trwy tecst a dwi’n meddwl bod natur y ffordd ’da ni yn cyfleu pethau i’n gilydd yn newid.”

“Llwyth o gyfleoedd”

Cychwynnodd greu ffilmiau pan oedd yn blentyn ifanc, wedi ei ysbrydoli gan ei deulu oedd yn aml iawn yn creu fideos cartref.

Ers hynny, mae wedi ennill llu o wobrau am ei waith ac wedi sefydlu cwmni cynhyrchu ei hun sef Trac 42.

“Unwaith nes i ddangos diddordeb, dwi ’di cael cymaint o gefnogaeth gan fy rhieni yn helpu fi ac mae ’na gymaint o wylia ffilm fel Gŵyl Ffilm PICS yn Galeri a Chlwb Ffilm hefo Dyffryn Nantlle 20:20.”

“Mae ’na lwythi o gyfleodd wedi bod i helpu fi dyfu fy sgiliau a thrio pethau gwahanol. Mae ’na gymaint o bobl sydd yn fodlon helpu pobl ifanc sydd hefo diddordeb mewn ffilm,” meddai.

“Dod yn rhan o hybu diwydiant ffilm yng Nghymru”

Ar hyn o bryd, mae Hedydd Ioan wrth ei fodd yn gweithio fel prentis creadigol i Gwmni Theatr y Fran Wen.

“Mae’n brofiad anhygoel,” meddai, “cael gweld gwaith proffesiynol, creadigol yn cael ei gynhyrchu yn y Gymraeg a gweld be ydi’r broses o’r cychwyn i’r diwedd – gan brofi bod ’na gynulleidfa ar gyfer pethau creadigol yn y Gymraeg.”

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y dyfodol, dywedodd:

“Fyswn i’n hoffi bod yn cyfarwyddo ffilmiau, datblygu mwy o brosiectau creadigol a dod yn rhan o hybu diwydiant ffilm yng Nghymru.”

Gallwch wylio’r ffilm isod…