Mae pennaeth Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych yn cyfaddef iddo anwybyddu neges gyntaf ITV yn gofyn i’r castell fod yn gartref i’r gyfres deledu I’m A Celebrity… Get Me Out of Here eleni, gan gredu mai neges ffug oedd hi.

Yn y castell yn Abergele mae’r gyfres yn cael ei ffilmio eleni oherwydd cyfyngiadau teithio’r coronafeirws, sy’n ei hatal rhag cael ei chynnal yn Awstralia.

Ond yn ôl Mark Baker, roedd e’n credu mai un o “nifer o e-byst rhyfedd” oedd y gwahoddiad gan benaethiaid ITV.

“Roedd yn crybwyll cynnig mawr am raglen deledu, yn gofyn i fi ffonio ar frys,” meddai wrth y Radio Times.

“Ond yn fy ngwaith, dw i’n cael llawer o e-byst rhyfedd gan bobol yn honni bod yn dywysogion yr Aifft â biliynau o bunnoedd.

“Ro’n i’n meddwl mai un o’r rheiny oedd hi, felly mi wnes i jyst ei gadael hi.”

Hwb ariannol

Ond wrth i enwogion fel Syr Mo Farah, Shane Richie a Victoria Derbyshire fynd am y gogledd ar gyfer y gyfres sy’n dechrau nos Sul (Tachwedd 15), gallai’r castell elwa’n sylweddol yn ariannol.

Mae lle i gredu bod ITV wedi talu £300,000 i’r castell am fod yn gartref i’r gyfres.

Fe wnaeth yr Ymddiriedolaeth brynu’r castell yn 2018 am £1m, yn ôl y Radio Times, sy’n dweud bod y perchnogion yn gobeithio adfer y castell.

Gallai’r gwaith hwnnw gostio £10m, ac fe allai’r ffi gan ITV dalu am un rhan o’r to.

Ond dydy’r pennaeth erioed wedi gwylio’r gyfres.

“Dw i’n gwybod pwy ydi Ant a Dec, wrth gwrs. Dw i’n eu cofio nhw yn Byker Grove pan o’n i’n blentyn.

“Dyna’r tro diwetha’ i mi eu gweld nhw yn unrhyw beth. Dw i ddim yn gwylio llawer o deledu.”