Mae trafodaethau ynglŷn â phris y drwydded deledu o 2022 ymlaen, sydd hefyd yn cynnwys trafodaeth am faint o arian fydd y BBC ac S4C yn ei dderbyn, wedi dechrau yn swyddogol.
Mae Oliver Dowden, Ysgrifennydd Diwylliant San Steffan, wedi gofyn i’r BBC gyflwyno eu hanghenion ariannol er mwyn iddo allu gwneud asesiad o gost y drwydded.
Ond mae wedi rhybuddio bod angen i’r gwasanaeth “esblygu” ar gyfer yr oes ddigidol.
Fis Ebrill, cododd y drwydded deledu o £154.50 y flwyddyn i £157.50.
Mae hefyd yn ofynnol bellach i bobol dros 75 oed dalu’r drwydded deledu – cyn mis Awst, dan y drefn flaenorol, roedd oddeutu 3.7m o gartrefi’n derbyn trwydded deledu yn rhad ac am ddim.
“Mae darlledu cyhoeddus yn rhan annatod o’r Deyrnas Unedig, ond er mwyn parhau i fod yn berthnasol a diwallu anghenion pobol yn yr oes ddigidol, mae’n rhaid iddo esblygu,” meddai Oliver Dowden.
“Heddiw rydym yn cymryd cam ymlaen yn ein cynlluniau i ddiwygio’r BBC ac yn dechrau trafodaethau i gytuno ar gost trwydded deledu o 2022 fel ei bod yn cynnig y gwerth gorau am arian i bobol sy’n talu’r drwydded.”
Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant hefyd wedi gofyn i’r BBC gynyddu eu hincwm masnachol gan barhau i wneud arbedion.
‘Arloesi, addasu ac arwain’
“Mae’r misoedd diwethaf wedi ein hatgoffa o bwysigrwydd y BBC yn lleol, yn genedlaethol ac yn fyd-eang,” meddai’r BBC mewn datganiad.
“Nid yw ein rhaglenni a’n gwasanaethau erioed wedi bod yn fwy perthnasol, pwysig nac angenrheidiol.
“Ac er bod y byd yn newid yn gyflym, felly hefyd y BBC.
“Byddwn yn parhau i arloesi, addasu ac arwain newid.”