Mae’r BBC wedi cadarnhau y bydd cost flynyddol trwydded deledu yn codi o £154.50 i £157.50 o Ebrill 1, 2020 ymlaen.

Y Llywodraeth sy’n gyfrifol am osod cost trwydded deledu a daeth cyhoeddiad yn 2016 y byddai’r gost yn codi ynghyd â chwyddiant am bum mlynedd o Ebrill 1, 2017.

Mae cost newydd trwydded deledu yn cyfateb i £3.02 yr wythnos neu £13.13 y mis.

Bydd pobl dros 75 oed yn parhau i dderbyn trwydded deledu yn rhad ac am ddim.

Bydd pobl sy’n talu am drwydded deledu yn derbyn llythyr atgoffa neu gynllun talu sy’n adlewyrchu’r cyfanswm newydd pan fydd eu trwydded yn cael ei adnewyddu nesaf.