Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i roi £10m arall i raglen trawsnewid tai cymdeithasol ledled Cymru.
Roedd y Llywodraeth eisoes wedi ymrwymo £10m.
Bydd y gefnogaeth yn rhoi hwb i’r economi ac yn “agor y drws” i diwydiant newydd yng Nghymru, yn ôl Gweinidogion.
Mae’r Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio (ORP) yn rhan o gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer adferiad economaidd gwyrdd.
Ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen, bydd ORP yn cydweithio â Chymdeithasau Tai a chynghorau ar brosiectau a fydd yn helpu i uwchraddio o leiaf 1,000 o gartrefi.
Bydd y rhaglen yn cyfrannu at ymdrechion Cymru i ddatgarboneiddio 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru erbyn 2050.
Cydweithio â’r sector Addysg Bellach a landlordiaid
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r sector Addysg Bellach er mwyn cefnogi’r diwydiant, gyda’r uchelgais o agor academïau ôl-ffitio newydd ledled Cymru.
Bydd y rhaglen yn datblygu’r economi werdd leol ac yn cyfrannu at ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddatgarboneiddio pob un o’r 1.4 miliwn o gartrefi yng Nghymru erbyn 2050.
Mae landlordiaid cymdeithasol wedi cael gwahoddiad i wneud cais am gyllid o hyd at £500,000 ar gyfer prosiectau ymchwil ac arloesi.
“Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach”
“Ein nod fel llywodraeth yw sicrhau Cymru fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach ac mae’r gwerthoedd hyn yn parhau i fod mor ddilys heddiw ag yr oeddent cyn y pandemig,” meddai Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol.
“Credwn mai dim ond un rhan o’n cynlluniau ar gyfer adferiad gwyrdd yw’r Rhaglen Ôl-ffitio er mwyn Optimeiddio, gan greu economi carbon isel i Gymru, lleihau tlodi tanwydd a mynd i’r afael â’r argyfwng yn yr hinsawdd.
“Mae’n ymwneud â llawer mwy na chynllun untro yn unig.
“Mae hwn yn ddull a allai greu diwydiant ôl-ffitio cynaliadwy, hirdymor sy’n cefnogi miloedd o swyddi lleol a chyfleoedd hyfforddi wrth inni weithredu i gyrraedd ein targedau carbon ar gyfer 2050.”
“Creu cannoedd o swyddi”
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: “Mae ôl-ffitio cartrefi yn hanfodol i ddarparu cartrefi gwell, creu cannoedd o swyddi, a sefydlu cadwyni cyflenwi newydd.
“Ar ben hynny bydd yn agor y drws i ddiwydiant newydd, bydd cadwyni cyflenwi lleol ledled Cymru yn cael eu cryfhau o’r galw sy’n cael ei greu drwy ôl-ffitio cartrefi cymdeithasol.”