Mae’r corff gwarchod ystadegau swyddogol wedi rhoi rhybudd i weinidogion a chynghorwyr Llywodraeth y Deyrnas Unedig ynghylch defnyddio data coronafeirws mewn ffyrdd sy’n “drysu” y cyhoedd.

Dywedodd Awdurdod Ystadegau’r DU (UKSA) fod perygl y bydd hyder mewn ffigurau swyddogol yn cael ei danseilio os cân nhw eu cyhoeddi heb esboniadau priodol o gyd-destun a ffynonellau.

Daw’r rhybudd y dilyn dadlau ynghylch modelu a ddefnyddiwyd yng nghynhadledd y wasg Stryd Downing ddydd Sadwrn (Hydref 31) i gyhoeddi’r clo diweddaraf yn Lloegr.

Roedd y Llywodraeth yn awgrymu y gallai marwolaethau gyrraedd 4,000 y dydd oni bai bod camau’n cael eu cymryd.

Ac echdoe (Tachwedd 4) cyhuddodd y cyn Brif Weinidog Theresa May Boris Johnson o ddewis data i gyd-fynd â’i bolisïau coronafeirws.

Wrth ymddangos gerbron ASau ddydd Mawrth, dywedodd prif gynghorydd gwyddonol y Llywodraeth Syr Patrick Vallance ei fod yn “difaru” os oedd y ffigurau – sy’n cynrychioli un “senario gwaethaf rhesymol” – wedi achosi braw.

Mewn datganiad, dywedodd UKSA ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth neu weinyddiaethau datganoledig yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon yn egluro ffynhonnell y wybodaeth a’r ffigurau tu ôl iddynt yn llawn mewn cynadleddau cyhoeddus.

“Fodd bynnag, nid yw’r defnydd o ddata wedi’i ategu’n gyson gan wybodaeth dryloyw mewn modd amserol. O ganlyniad, mae potensial i ddrysu’r cyhoedd a thanseilio hyder yn yr ystadegau,” meddai’r datganiad.

“Mae’n bwysig bod data’n cael eu rhannu mewn ffordd sy’n hyrwyddo tryloywder ac eglurder. Dylid ei gyhoeddi ar ffurf glir gydag esboniadau priodol o’r cyd-destun a’r ffynonellau.

“Dylai fod ar gael i bawb yn syth pan mae’r wybodaeth yn cael ei ryddhau i’r cyhoedd.”