Mae’r cyn-Brif Weinidog Theresa May wedi cyhuddo Boris Johnson o ddewis data i gyd-fynd â’i bolisïau coronaferiws, gan fynnu bod yn rhaid i’r Llywodraeth ddatgelu cost economaidd ail gyfnod clo yn Lloegr.

Ond nid oedd y Boris Johnson yn y siambr i glywed y feirniadaeth, gan ei fod wedi dewis gadael yn fuan ar ôl i Theresa May godi i’w thraed,

Fe wnaeth hi gyfaddef nad oedd hi’n “genfigennus” o’r penderfyniadau sy’n ei wynebu ef a’r Llywodraeth.

Wrth i ASau ystyried rheoliadau ar gyfer ail gyfnod clo Lloegr, dywedodd Theresa May: “Mae’r pandemig hwn wedi herio llywodraethau ledled y byd ac mae gweinidogion wedi bod o dan bwysau di-baid wrth ddelio â’r mater hwn.

“Ond, yn union fel y mae gweinidogion yn gwneud penderfyniadau anodd, felly hefyd y Senedd, a bydd y Senedd yn gwneud penderfyniadau gwell os yw’n cael ei hysbysu’n llawn ac yn briodol.”

“Mae’n ymddangos fel petai’r ffigurau’n cael eu dewis i gefnogi’r polisi”

Dywedodd: “Mae’n ymddangos bod y penderfyniad i fynd tuag at y clo hwn, yn bennaf, yn seiliedig ar ragweld 4,000 o farwolaethau’r dydd.

“Ac eto, os edrychwch ar y llwybr sy’n dangos yn y graff hwnnw a aeth i 4,000 o farwolaethau’r dydd, byddem wedi cyrraedd 1,000 o farwolaethau’r dydd erbyn diwedd mis Hydref.

“Y cyfartaledd yn wythnos olaf mis Hydref oedd 259, yn ôl fy nghyfrifiadau. Mae pob un o’r marwolaethau hynny’n dristwch ac mae ein meddyliau gyda’r teuluoedd, ond nid 1,000 o farwolaethau’r dydd ydyw.

“Felly roedd y rhagfynegiad yn anghywir cyn iddo gael ei ddefnyddio hyd yn oed.

“Ac mae hyn yn arwain at broblem i’r Llywodraeth – i lawer o bobl mae’n ymddangos fel petai’r ffigurau’n cael eu dewis i gefnogi’r polisi yn hytrach na bod y polisi’n seiliedig ar y ffigurau.

“Rydym angen y dadansoddiadau priodol ac mae angen inni wybod y manylion y tu ôl i’r modelau hyn.

“Rhaid i ni allu asesu dilysrwydd y modelau mae’r Llywodraeth yn eu cynnig.”

Diffyg data ar gost penderfyniadau’r coronafeirws

Cododd Theresa May bryderon hefyd am ddiffyg data ar gost penderfyniadau’r Llywodraeth, gan gynnwys ar iechyd meddwl, cam-drin domestig, triniaethau nad ydynt yn ymwneud â’r coronafeirws, a “posibilrwydd o fwy o hunanladdiadau.”

Dywedodd wrth ASau: “Mae swyddi’n cael eu colli, bywoliaethau’n cael eu chwalu, busnesau’n methu, a sectorau cyfan wedi’u difrodi.

“Pa fath o ddiwydiant awyrennau fydd gennym ar ôl dod allan o hyn? Pa fath o sector lletygarwch? Pa fath o siopau annibynnol bach fydd ar ôl?

“Mae’n rhaid bod y Llywodraeth wedi gwneud y dadansoddiad hwn, gadewch i ni ei weld a gwneud ein dyfarniadau ein hunain.”

Gwrthryfel mwy na’r disgwyl

Cefnogodd ASau glo Lloegr ar ôl y ddadl, wedi i Boris Johnson rybuddio am “fygythiad dirfodol” i’r GIG heb gamau i leihau lledaeniad y feriws.

Felly yn Lloegr, o ddydd Iau, bydd tafarndai, bwytai a siopau nad ydynt yn hanfodol unwaith eto yn cael eu gorfodi i gau eu drysau ar ôl i Dŷ’r Cyffredin bleidleisio o 516 i 38 – mwyafrif o 478 o’r Llywodraeth – o blaid y cyfyngiadau newydd.

Fodd bynnag, roedd y 38 yn erbyn yn cynnwys gwrthryfel mwy na’r disgwyl o feinciau’r Toriaid – heriodd 32 o ASau Torïaidd y chwipiaid gan bleidleisio yn erbyn y mesurau, yn eu plith oedd cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones AS. Roedd hefyd ddau arall yn gweithredu fel ‘tellers’ ar gyfer y pleidleisiau ’na’.