Bydd Cymru’n cael cyfran “briodol” o frechlynnau Covid-19 gan Lywodraeth y Deyras Unedig, meddai’r Gweinidog Iechyd.

Eglurodd Vaughan Gething yng Nghyfarfod Llawn y Senedd ddydd Mercher, Tachwedd 4, mai’r bobol fwyaf bregus fydd yn cael eu blaenoriaethu.

Roedd y Gweinidog Iechyd yn ymateb i bryderon gan weinidog iechyd cysgodol Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth mai gadael brechlynnau yng ngofal Llywodraeth y Deyrnas Unedig fyddai Llywodraeth Cymru.

“Nid yw’n deg dweud ein bod yn gadael hyn i Lywodraeth y Deyrnas Unedig,” meddai Vaughan Gething.

“Llywodraeth y Deyrnas Unedig sydd yn gyfrifol am gael brechlyn ar ran y Deyrnas Unedig gyfan.

“Pan fyddant ar gael mi fyddwn ni’n cymryd y gyfran sy’n gymesur â’r boblogaeth a faint o frechlynnau sydd ar gael.”

Pryder am argaeledd brechlynnau

Eglurodd Rhun ap Iorwerth ei fod yn pryderu y bydd argaeledd brechlynnau gan y Deyrnas Unedig yn ddim gwahanol i broblemau sydd eisoes wedi eu gweld.

“Rwy’n edmygu eich ymddiriedaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig”, meddai.

“Yn union fel gyda phrofion ac elfennau eraill o’r hyn rydym wedi’i brofi dros y saith, wyth mis diwethaf, gyda PPE ac yn y blaen, fy mhryder yw eich bod chi ofn cymryd rheolaeth.”

Mae bellach 1,344 o gleifion â Covid-19 mewn gwelyau ysbyty yng Nghymru – cynnydd o 21% o’r un diwrnod yr wythnos diwethaf.

Dyma’r nifer uchaf o gleifion â Covid-19 mewn ysbytai yng Nghymru ers Ebrill 25.