Mae Sefydliad Iechyd y Byd a Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau gwell iechyd i bawb.

Mae’r cytundeb newydd yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio’n agosach â’r sefydliad rhyngwladol.

Yn dilyn arwyddo’r cytundeb yn swyddogol, cynhaliwyd cyfarfod rhithiwr ddydd Mercher, Tachwedd 4, i drafod heriau cyffredin mewn cymunedau cyn-Covid-19.

Anghydraddoldebau iechyd

“Mae Cymru, fel y rhan fwyaf o wledydd, yn dioddef o anghydraddoldebau o ran iechyd, ond rydyn ni’n benderfynol o adeiladu Cymru iachach i bawb”, meddai’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething.

“Mae’r ffaith bod Sefydliad Iechyd y Byd wedi cydnabod ein gwaith yn dyst i waith caled a dyfalbarhad pobol Cymru, sy’n gweithio’n barhaus i sicrhau cydraddoldeb ar gyfer ein cenedl.”

Ychwanegodd Dr Tracey Cooper, Prif Weithredwr Iechyd Cyhoeddus Cymru bod Covid-19 wedi “gawethygu’r anghydraddoldebau” yng Nghymru.

“Mae’r niweidiau hyn i’w teimlo naill ai’n uniongyrchol yn sgil y clefyd neu’n anuniongyrchol drwy effeithiau’r heriau economaidd, colli swyddi, ansicrwydd parhaus ac effaith y clefyd ar lesiant meddyliol a’r gorbryder y mae pobl yn ei deimlo wrth ddefnyddio gwasanaethau iechyd”, meddai.

Dysgu gan Gymru

Eglurodd Dr Hans Kluge, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Swyddfa Ranbarthol Ewrop Sefydliad Iechyd y Byd bod y sefydliad rhyngwladol yn edrych ymlaen at ddysgu gan Gymru.

“Gyda’r cytundeb hwn rhwng Llywodraeth Cymru a Sefydliad Iechyd y Byd, rydw i’n edrych ymlaen at gefnogi’r gwaith o sicrhau iechyd, datblygiad cynaliadwy, a ffyniant i bobl Cymru, a dysgu o’r dulliau arloesol hyn i gryfhau tegwch iechyd ledled Ewrop dros y blynyddoedd i ddod,” meddai.

Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o gynlluniau sy’n canolbwyntio ar gydraddoldeb sydd o ddiddordeb i’r sefydliad rhyngwladol, megis presgripsiynau am ddim i bob preswylydd yng Nghymru a pharcio am ddim ym mhob ysbyty.

Cymru hefyd yw’r wlad gyntaf i sefydlu ei menter Adroddiad Statws Tegwch Iechyd (HESRi) ei hun.