Dim ond un dalaith sydd angen i Joe Biden ei chipio i sicrhau digon o bleidleisiau’r coleg etholiadol a hawlio’r hyn mae’n ei alw’n “fuddugoliaeth i Americanwyr”.

Yn y cyfamser mae’r Arlywydd Donald Trump wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol yn dilyn canlyniadau agos iawn yn yr etholiad arlywyddol.

Ar ôl sicrhau buddugoliaeth yn Wisconsin a Michigan, roedd gan y Democrat  264 o bleidleisiau yn y coleg etholiadol. Dim ond un dalaith arall sydd angen iddo sicrhau – un ai Georgia, Nevada, North Carolina neu Pennsylvania – er mwyn cyrraedd y 270 sydd eu hangen i hawlio buddugoliaeth yn y ras am y Tŷ Gwyn.

Bydd yn rhaid i Donald Trump, serch hynny, ennill pedair talaith ac mae eisoes wedi dechrau cymryd camau cyfreithiol mewn tair talaith er mwyn atal cyfrif pleidleisiau neu fynnu bod ei dîm yn cael mynediad er mwyn craffu ar y broses.

Yn gynharach ddydd Mercher (Tachwedd 4) roedd Donald Trump wedi honni mai fe oedd yn fuddugol, gan fygwth mynd i’r Goruchaf Lys ar ôl rhybuddio am “dwyll” am y modd roedd pleidleisiau’n cael eu cyfrif.

Yn ôl ymgyrch Joe Biden, roedd sylwadau’r Arlywydd yn “ymgais i geisio ymyrryd a hawliau democrataidd dinasyddion yr Unol Daleithiau.”

Ond dywedodd Donald Trump bod yr etholiad ddydd Mawrth, sydd wedi derbyn nifer fawr o bleidleisiau drwy’r post yn rhannol oherwydd y coronafeirws, wedi bod “yn embaras i’n gwlad.”

Mae ymgyrch Donald Trump wedi galw am ail-gyfrif yn Wisconsin a chymryd camau cyfreithiol i geisio atal cyfrif pleidleisiau yn Pennsylvania a Michigan. Nid yw’n glir ar hyn o bryd a oes gan yr Arlywydd sail gyfreithiol, gydag ymgyrch Joe Biden yn mynnu bod yn rhaid cyfrif pob un bleidlais.

Mae disgwyl i’r canlyniadau yn Nevada, lle mae’r ddau ben ben a’i gilydd, gael eu cyhoeddi heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 5).