Mae cwmni archfarchnad Sainsbury’s yn bwriadu cael gwared â 3,500 o swyddi.

Daw hyn fel rhan o gynlluniau’r archfarchnad i gau ei holl gownteri cig, pysgod a deli yn barhaol, yn ogystal â rhai o’i siopau Argos er mwyn arbed £60m.

Fel rhan o gynlluniau’r cwmni i gau 420 o siopau Argos dros y tair blynedd nesaf bydd 120 o’r siopau hynny yn cau nawr.

“Rydym yn bwriadu siarad â’n gweithwyr heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 5) ynghylch pa siopau Argos a chownteri bwyd sydd wedi eu heffeithio.

“Byddwn yn gweithio’n galed iawn i ddod o hyd i swyddi eraill i gynifer o’r gweithwyr â phosibl,” meddai Simon Roberts, prif weithredwr Sainsbury’s.

“Ar hyn o bryd, dw i a’r tîm i gyd yn canolbwyntio ar gefnogi ein cwsmeriaid yn y dyddiau a’r wythnosau i ddod.”

Cyflwynodd Sainsbury’s golled cyn treth o £137m, ar gyfer y flwyddyn hyd at Fedi 19.