Mae Banc Lloegr wedi cyhoeddi y bydd yn rhyddhau £150biliwn i hybu’r economi wrth i argyfwng Covid-19 barhau.
Mae cyfraddau llog hefyd wedi eu cadw ar 0.1%, y gyfradd isaf erioed.
Pleidleisiodd aelodau Pwyllgor Polisi Ariannol y Banc yn unfrydol i ehangu’r mesurau i leddfu’r pwysau economaidd i £895 biliwn.
Mae arbenigwyr wedi rhybuddio y gallai’r Deyrnas Unedig wynebu dirwasgiad dwbl, ond mae rhagolygon diweddaraf y Banc yn awgrymu y bydd yr economi’n osgoi hyn o drwch blewyn wrth i weithgarwch wella ddechrau’r flwyddyn nesaf.
Dywedodd y pwyllgor y bydd cynnyrch mewnwladol crynswth yn codi yn chwarter cyntaf 2021, ond rhybuddiodd y bydd gweithgarwch yn parhau’n “sylweddol is” na chyn y coronafeirws.
Ar drothwy clo cenedlaethol yn Lloegr mae disgwyl i’r Canghellor Rishi Sunak amlinellu cefnogaeth bellach gan y llywodraeth i’r economi ddydd Iau, Tachwedd 5.