Fe fydd ail gyfnod clo cenedlaethol yn dechrau yn Lloegr heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 5) am bedair wythnos.

Mae tafarndai, bwytai a siopau sydd ddim yn gwerthu nwyddau hanfodol, wedi gorfod cau eu drysau unwaith eto ac aelodau o’r cyhoedd yn cael gorchymyn i aros gartre, lle mae hynny’n bosib, am bedair wythnos er mwyn ceisio atal lledaeniad Covid-19.

Fe fydd plant yn parhau i fynd i’r ysgol a does dim cyfyngiadau ar wneud ymarfer corff yn yr awyr agored, yn ogystal ag “ymweliadau diogel” gan deuluoedd i breswylwyr cartrefi gofal.

Yn ôl adroddiadau mae disgwyl i’r Canghellor Rishi Sunak gadarnhau mewn datganiad yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw y bydd y cynllun ffyrlo yn parhau ar gyfer busnesau sydd wedi gorfod cau, y tu hwnt i’r cyfnod clo diweddaraf (Rhagfyr 2).

Mae disgwyl i’r Canghellor gyhoeddi hefyd y bydd Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael mynediad at y cynllun ffyrlo, os ydyn nhw’n dilyn Lloegr ac yn cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol, yn ôl y Telegraph.

Yn y cyfamser mae’r Prif Weinidog wedi cael rhybudd gan grŵp o Aelodau Seneddol Ceidwadol yng ngogledd Lloegr nad ydyn nhw am i’w hetholaethau fod mewn clo am gyfnod amhenodol.

Mae’r Northern Research Group (NRG) wedi galw ar Boris Johnson am fwy o eglurder am ei gynlluniau i osgoi rhagor o gyfyngiadau yn y dyfodol.

Nos Fercher (Tachwedd 4) roedd Aelodau Seneddol wedi pleidleisio o 516 i 38 o blaid y cyfyngiadau newydd, a fydd yn dod i ben ar Ragfyr 2.

Serch hynny roedd 32 o ASau Ceidwadol wedi pleidleisio yn erbyn y mesurau.

Cafodd y cyfyngiadau wedyn eu cymeradwyo gan Dy’r Arglwyddi.

Fe fydd y cyfyngiadau yng Nghymru yn dod i ben ar Dachwedd 9.