Mae Aelod Seneddol o Gymru ymhlith y rheiny a bleidleisiodd yn erbyn cyflwyno clo cenedlaethol yn Lloegr.
Pleidleisiodd 34 o Dorïaid yn erbyn cynnig eu llywodraeth, ac yn eu plith oedd David Jones, AS Gorllewin Clwyd a chyn-Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
Gyda chefnogaeth y Blaid Lafur wnaeth Llywodraeth San Steffan basio’r cynnig brynhawn ddoe gyda 516 o blaid a 38 yn ei erbyn.
Daeth clo cenedlaethol Lloegr i rym fore heddiw (dydd Iau, Tachwedd 5) ac mi fydd yn para am bedair wythnos. Daw’r cam wedi i Lywodraeth Cymru gyflwyno ‘clo dros dro’ yn y wlad hon.
Y bleidlais
David Jones oedd yr unig AS Ceidwadol o Gymru a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig brynhawn dydd Mercher (Tachwedd 4).
Wnaeth Aelodau Seneddol Plaid Cymru atal eu pleidlais am fod y mater yn berthnasol i Loegr yn unig.
Pleidleisiodd pob un AS arall o blaid y cyfyngiadau gan eithrio Anna McMorrin, cynrychiolydd Llafur Gogledd Caerdydd (ni phleidleisiodd).
Darllen mwy