Mae’n bryd i rôl a chyfraniad gofalwyr di-dâl gael ei chydnabod, yn ôl adroddiad gan elusen Gofalwyr Cymru.

Mae’r adroddiad yn dangos fod Covid-19 wedi newid canfyddiad pobol o iechyd a gofal cymdeithasol, a’i bwysigrwydd, gyda digwyddiadau fel clapio dros ofalwyr a rhoi enfys yn ffenestri tai wedi tynnu sylw at waith gofalwyr.

Fodd bynnag mae cannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl yng Nghymru ddim yn derbyn yr un cydnabyddiaeth am eu cyfraniad yn ystod y pandemig.

“Mae’n bryd i rôl a chyfraniad gofalwyr di-dâl fel trydydd piler ein system iechyd a gofal gael ei chydnabod yn briodol,” meddai Claire Morgan, Cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru.

Mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod nifer y gofalwyr di-dâl wedi cynyddu’n sylweddol yng Nghymru yn ystod y pandemig a bod cyfyngiadau Covid-19 wedi bod yn arbennig o heriol iddyn nhw. Mae Claire Morgan wedi galw ar awdurdodau i adfer a dechrau gwasanaethau newydd i gefnogi gofalwyr di-dâl cyn gynted ag sy’n bosibl.

“Mae angen i ni weithio gyda’n gilydd i sicrhau bod systemau’n gweithio’n iawn, heb drafferth, fel bod hawliau gofalwyr yn dod yn realiti, a’u bod nhw’n cael y cymorth maen nhw’n ei haeddu.

“Mae angen i ofalwyr fod yn hyderus bod y systemau a’r gwasanaethau ar waith, i’w cynorthwyo i barhau i ofalu am y rheiny sydd fwyaf agored i niwed.”

Prif Ddarganfyddiadau’r adroddiad:

  • Cododd nifer y gofalwyr di-dâl o un o bob chwech i dros un rhan o bump o’r boblogaeth yng Nghymru yn ystod y pandemig, sef tua 683,000 o ofalwyr.
  • Mae’r cyfyngiadau a osodwyd oherwydd Covid-19 wedi bod yn arbennig o heriol i ofalwyr di-dâl
  • Dim ond 38% o ofalwyr di-dâl ddywedodd eu bod nhw wedi gweld neu wedi cael gwybodaeth i’w helpu i ofalu cyn y pandemig, gostyngiad o 7% ers y llynedd – er bod hyn yn ofyniad cyfreithiol o’r Ddeddf ers 2014
  • 85% o ofalwyr heb gael Asesiad o Anghenion Gofalwyr yn y flwyddyn cyn mis Mawrth 2020, er bod ganddynt hawl gyfreithiol i gael asesiad.
  • 41% heb glywed am asesiad o anghenion gofalwyr cyn gwneud yr arolwg
  • 62% yn dweud eu bod nhw’n gofalu ar eu pen eu hunain
  • 10% o ofalwyr yn unig sydd wedi derbyn gwasanaethau gwybodaeth neu gyngor gan awdurdodau lleol.

Roedd yr elusen wedi cynnal arolwg gyda 600 o ofalwyr ar draws Cymru.